Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Datganiad ar Ystadegau’r Farchnad Lafur

Mae ystadegau diweddaraf y farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw (16 Ebrill) yn dangos bod economi Cymru yn parhau i fod yn fregus, ond bod arwyddion o adferiad, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos newid cadarnhaol yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru, gyda gostyngiad o 3,000 yn nifer y bobl sy’n ddi-waith dros y chwarter diwethaf. Dros y flwyddyn, roedd y gostyngiad yn y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn fwy na’r gostyngiad cyffredinol ar draws y DU.

Er nad yw lefel cyflogaeth ar draws Cymru wedi newid, ers y chwarter diwethaf, dros y flwyddyn, mae cyflogaeth wedi cynyddu 4,000 yng Nghymru. Mae diweithdra ymysg yr ifanc hefyd wedi gostwng 700 dros y mis diwethaf.

Dywedodd Mr Jones:

Mae ffigurau’r mis hwn yn awgrymu rhywfaint o welliant, ac mae hyn i’w groesawu. Yr wyf yn arbennig o falch o weld bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn gostwng a, dros y flwyddyn, bod y gyfradd gyflogaeth wedi cynyddu.

Fodd bynnag, er bod y newid sylweddol hwn yn y ffigurau yn rhywbeth i’w groesawu, rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon. Dim ond yr wythnos ddiwethaf, er siom i ni i gyd, gwelsom gau ffatri Welsh Country Foods ar Ynys Môn oedd yn golygu bod 350 o bobl yn colli eu swyddi.

Nid yw hyn ond yn atgyfnerthu’r angen i gadw llygad ar y sefyllfa yn gyson ac am weithredu cydlynus parhaus rhwng Llywodraethau er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gynnal ac i greu cyflogaeth yng Nghymru.

Bydd y mesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb y mis diwethaf yn helpu Cymru a gweddill y DU i aros ar y llwybr tuag at adferiad. Daeth y cynnydd mwyaf erioed yn lwfans personol y dreth incwm i rym y mis hwn. Bydd hyn yn cael cryn effaith ar economi Cymru gan y bydd yn helpu i gefnogi cyflogaeth a hybu grym gwario. O dan y Llywodraeth hon, erbyn hyn nid yw 109,000 o bobl yng Nghymru yn talu treth incwm o gwbl, ac mae’r penderfyniad i godi’r lwfans personol i £10,000 y flwyddyn nesaf yn golygu y bydd y ffigur hwn yn cynyddu i 130,000.

Mae’n rhaid i ni hefyd wneud mwy i droi’r gostyngiad mewn diweithdra ymysg yr ifanc yn duedd fwy positif fel bod ein pobl ifanc yn cael mynediad at y cyfleoedd gwaith y mae eu hangen arnynt.” Am y rheswm hwn, y mis nesaf byddaf yn cynnal Uwchgynhadledd Swyddi arall a fydd yn canolbwyntio ar roi’r gefnogaeth i gyflogwyr Cymru y mae arnynt ei hangen i gynorthwyo pobl ifanc i gael gwaith. O’r Contract Ieuenctid i’r Rhaglen Waith, mae’r amrediad o gymorth sydd ar gael i helpu pobl ifanc i gael gwaith yn eang ac yn amrywiol ac mae’r Uwchgynhadledd yn cynnig y llwyfan perffaith ar gyfer cyfleu’r neges honno.

Cyhoeddwyd ar 17 April 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 April 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. First published.