Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn canmol gwaith Archesgob Caergaint
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi canmol gwaith Dr Rowan Williams, a gyhoeddodd heddiw ei fod yn mynd i roi’r gorau i’w swydd…
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi canmol gwaith Dr Rowan Williams, a gyhoeddodd heddiw ei fod yn mynd i roi’r gorau i’w swydd fel Archesgob Caergaint.
Bu Dr Williams, 61, a aned yn Abertawe, yn gwasanaethu fel Esgob Trefynwy rhwng 1991 ac 1999 cyn dod yn Archesgob Cymru. Fe’i penodwyd yn Archesgob Caergaint yn 2002 - y canfed a phedwar i gyflawni’r gwaith - ond, ar ol deng mlynedd, mae wedi cyhoeddi y bydd yn derbyn swydd newydd fel Meistr Coleg Magdalen, Caergrawnt, fis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Dr Williams am ei ymrwymiad a’i egni diflino yn ei swydd fel Archesgob Caergaint yn ystod y degawd diwethaf. Mae wedi arwain yr eglwys drwy gyfnod sydd wedi bod yn heriol ar brydiau ac mae wedi bod yn llysgennad rhagorol dros Gymru ar hyd y daith. “Dymunaf bob llwyddiant iddo yn ei waith newydd yng Ngholeg Magdalen.”