Datganiad i'r wasg

Cymru yn gwneud cyfraniad gwych at 2012

Heddiw [24 Mai 2012] bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn ymweld a busnesau, arbenigwyr chwaraeon ac athletwyr elit i dalu teyrnged…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [24 Mai 2012] bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn ymweld a busnesau, arbenigwyr chwaraeon ac athletwyr elit i dalu teyrnged i rol allweddol Cymru yn cefnogi Gemau Llundain 2012.

Yn dilyn taith fasnach yn ddiweddar i Dde Ddwyrain Asia, lle bu’n dyst i lofnodi cytundeb £6m rhwng Trysorlys Gwlad Thai a’r Bathdy Brenhinol, roedd Ysgrifennydd Cymru yn ol yn Ne Cymru i weld medalau’r gemau Paralympaidd yn cael eu cynhyrchu ym Mhencadlys y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.

Bydd Mrs Gillan yn ymuno a’r athletwr Paralympaidd Nathan Stephens a’r Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol Anthony Hughes am daith o gwmpas ‘Cell Athena’ y Bathdy, lle mae’r medalau’n cael eu cynhyrchu, cyn ymweld a’r cyflenwr Olympaidd First4Numbers ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r busnes yn darparu amrywiaeth o gyflenwadau chwaraeon ar gyfer rasys a digwyddiadau chwaraeon mawr. Y busnes hwn fydd yn darparu’r rhifau ar gyfer festiau’r athletwyr ar gyfer digwyddiadau cystadleuol Gemau eleni.  Y tro diwethaf i’r Ysgrifennydd Gwladol ymweld a First4Numbers oedd yn 2011 gyda’r Prif Weinidog a bydd yn dychwelyd i’r ffatri i gwrdd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr Darren Powell a’i dim, i glywed am rol y cwmni fel cyflenwr i’r Gemau ac effaith hynny ar y cwmni.

Dim ond dau o lu o gwmniau Cymreig sy’n helpu i wneud y Gemau’n bosibl yw’r Bathdy Brenhinol a First4Numers. Daw’r ymweliadau wrth i’r Llywodraeth ryddhau’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n dangos sut mae Cymru yn chwarae’i rhan yng Nghemau Llundain 2012.

Yn ddiweddarach, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld a Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd lle bydd y Cadeirydd, Laura McAllister, yn cyfarfod a hi. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael taith o gwmpas yr Ardal Berfformio newydd ar gyfer Athletwyr Elit.

Yno bydd yn cyfarfod a David Davies o’r Barri sydd wedi ennill dwy fedal Olympaidd am nofio. Bydd hefyd yn cyfarfod ag Aled Sion Davies o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n gobeithio ennill gwobr ar y maes athletau yn y Gemau Paralympaidd, yn ogystal a Raer Theaker o Gaerdydd sy’n gobeithio ennill medalau yn Glasgow yn 2014 a Rio yn 2016 mewn gymnasteg.

Bydd hefyd yn cwrdd ag aelodau o’r tim cefnogi sy’n gweithio gyda’r athletwyr i’w paratoi ar gyfer gofynion corfforol amrywiol eu chwaraeon.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae Cymru yn gwneud cyfraniad aruthrol i Lundain 2012. Rwy’n eithriadol o falch y bydd y rhif ar git Usain Bolt a’r medalau a fydd, gobeithio, yn hongian ar ein Holympiaid a Pharalympiaid gwych, wedi’u gwneud yng Nghymru.”

“Rwyf hefyd wrth fy modd yn gweld fy hun y gwaith caled a’r ymroddiad eithriadol sy’n digwydd ar y trac, yn y gampfa a thu ol i’r llenni yng Nghymru i gyfrannu at obeithion Tim GB am fedalau.

“Dyma flwyddyn gyffrous i’r DU i gyd wrth i’r Gemau Olympaidd a’r Jiwbili Diemwnt gael eu cynnal ac mae gan bob gwlad gyfle i ddisgleirio.  Bydd llygaid y byd arnom. Felly gadewch inni fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos popeth sy’n wych am Gymru ac i sicrhau y byddwn yn elwa am amser maith ar ol i’r gemau ddod i ben.

“Mae’r athletwyr o Gymru sy’n cymryd rhan yn y Gemau nid yn unig yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i gymryd rhan mewn chwaraeon, ond hefyd i weithio’n galed i gyflawni’u nodau.  Dymunaf bob lwc i bawb sy’n gysylltiedig a dod a mwy fyth o fri yn y maes chwaraeon i Gymru.” 

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:

“A’r fflam Olympaidd yn cyrraedd Cymru yfory (25 Mai 2012), mae’r amser yn agosau at yr hyn a fydd yr ymgyrch farchnata fwyaf y byddwn wedi’i gweld yn y DU ar gyfer chwaraeon. Yma yng Nghymru, rydym eisiau bod yn fyd-enwog fel gwlad lwyddiannus mewn chwaraeon, lle mae ennill yn ddisgwyliedig a lle bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu hysbrydoli i fod yn egniol.  Rydym yn edrych ymlaen at ddangos i’r Ysgrifennydd Gwladol y gwaith sy’n digwydd y tu ol i’r llenni yn Chwaraeon Cymru i sicrhau bod ein hathletwyr yn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu.”

Dywedodd Vin Wijeratne, Cyfarwyddwr Cyllid y Bathdy Brenhinol: “Yn y flwyddyn hon o ddathliadau, pan fydd llygaid y byd yn troi at y Deyrnas Unedig, mae’n hyfryd cael croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i’r Bathdy Brenhinol. 
Rydym yn eithriadol o falch ac yn ei hystyried hi’n fraint gallu cynhyrchu a llaw pob un o’r 4,700 o fedalau’r enillwyr ar gyfer y gemau Olympaidd a Pharalympaidd   Mae dros 800 o bobl leol yn cael eu cyflogi gan y Bathdy Brenhinol, a bellach bydd pob un o’r rhain yn gallu dweud wrth eu hwyrion eu bod hwy, a De Cymru, wedi cyfrannu at greu darn o hanes Olympaidd.”

Dywedodd Darren Powell, Rheolwr Gyfarwyddwr First4Numbers:

“Mae First 4 Numbers yn wirioneddol falch o chwarae rhan fach ond hollbwysig yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.

“Mae’n gyfle gwych i gwmni o Gymru ddarparu rhifau cystadleuwyr ar gyfer digwyddiad mor enwog. Mae’n brawf o ansawdd y gwaith a ddarperir gan y cwmni.”

Cyhoeddwyd ar 24 May 2012