Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nodi Dydd y Cofio yn y Bathdy Brenhinol

David Jones yn bathu darn arian £5 arbennig i nodi Dydd y Cofio 2013

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David Jones strikes Remembrance Day coin

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn ymweld â’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, De Cymru fore heddiw er mwyn cael taith o amgylch cwmni gweithgynhyrchu hynaf Prydain a bathdy allforio mwyaf y byd.

Croesewir Mr Jones gan Andrew Mills, Cyfarwyddwr Arian Cylchred y Bathdy Brenhinol, er mwyn mynychu seremoni Dydd y Cofio yng nghwmni staff a Chyfarwyddwyr y Bathdy Brenhinol. Bydd yn gosod torch wrth gofeb rhyfel y Bathdy Brenhinol i sain Y Caniad Olaf gan aelod o Fand y Grenadier Guards.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn bathu darn arian £5 arbennig i nodi Dydd y Cofio 2013, sy’n cael ei gyhoeddi gan y Bathdy Brenhinol er cof am arwyr brwydrau’r gorffennol a’r presennol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:

Mae Dydd y Cofio yn cynrychioli un o funudau mwyaf grymus ein hanes. Mae’n gyfle i ni oedi am funud i gofio’r dynion a’r merched hynny sydd wedi marw neu wedi dioddef mewn rhyfeloedd, gwrthdaro ac ymgyrchoedd heddwch ledled y byd.

Mae’r pabi coch yn symbol cyfarwydd o Ddydd y Cofio erbyn hyn. Mae darn arian arbennig Dydd y Cofio hefyd yn deyrnged deilwng i’r rheiny sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac yn arwydd o’n diolchgarwch i’r aelodau hynny o’r lluoedd arfog, yn ddynion ac yn ferched, sydd wrthi o hyd yn amddiffyn ein ffordd o fyw, yma a dramor.

Dywedodd Andrew Mills, Cyfarwyddwr Arian Cylchred y Bathdy Brenhinol:

Rydym yn croesawu’r ffaith y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yma yn y Bathdy Brenhinol i nodi’r achlysur gyda ni. Ar adeg fel hyn, mae anrhydeddu cyfraniad ein dynion a’n merched yn y lluoedd arfog yn arbennig o ingol i ni yma yn y Bathdy Brenhinol, sydd wedi bod yn gwneud medalau i filwyr ymgyrchoedd milwrol ers iddynt gael eu dyfarnu am y tro cyntaf i filwyr unigol yn dilyn Brwydr Waterloo yn 1815.

Cyhoeddwyd ar 11 November 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 November 2013 + show all updates
  1. Added translation and new image

  2. First published.