Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu llwyddiant tîm Cymru wrth iddynt gyrraedd yn ôl
Bu Alun Cairns yn canmol tîm Cymru am eu llwyddiant cyn iddynt ddychwelyd i Gymru a’r dathliadau yn y ddinas.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:
Mae’n bleser gennym groesawu tîm a rheolwyr Cymru adref i’w gwlad. Cawsant lwyddiant aruthrol ym Mhencampwriaeth Ewro 2016, ac rydym mor falch o bob un ohonynt. Maent yn ysbrydoliaeth inni i gyd.
Mae cefnogwyr Cymru wedi ymddwyn yn rhagorol drwy gydol y gystadleuaeth ac mae eu gwlad yn falch ohonynt.
Does dim modd gorbwysleisio beth yw gwerth pêl-droed i gael sylw rhyngwladol. Bu hyn yn hysbyseb anhygoel i Gymru gan wir gryfhau ein safle yng ngolwg y byd.
Mae’n bryd inni ddathlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’i llwyddiant hanesyddol.
Croeso nôl