Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi bargen newydd yng nghyswllt dŵr yng Nghymru
Bydd diwygio Mesur Cymru yn tynnu’r hawl hanesyddol i ymyrryd mewn materion sy’n ymwneud â dŵr oddi ar Lywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn datganoli pwerau dros ddŵr i’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, gall Llywodraeth y DU rwystro deddfwriaeth Cynulliad Cymru os yw’n debygol y bydd hynny’n cael effaith niweidiol ddifrifol ar gyflenwadau dŵr yn Lloegr. Gall hefyd atal Gweinidogion Cymru rhag gweithredu am yr un rheswm.
Fodd bynnag, bydd y diwygiadau arloesol i Fesur Cymru sy’n mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd yn tynnu’r hawl hanesyddol i ymyrryd mewn materion sy’n ymwneud â dŵr oddi ar Lywodraeth y DU.
Ni fydd deiliaid cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn gweld unrhyw newid. Yr hyn fydd yn newid yw mai Llywodraeth Cymru fydd yn gweinyddu materion yn ymwneud â dŵr Cymru yn y dyfodol.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd y pwerau presennol sy’n caniatáu i Weinidogion y DU ymyrryd mewn materion ynghylch dŵr yn cael eu disodli gan gytundeb statudol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Mae hyn yn arwydd bod y berthynas rhwng y Llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd yn aeddfedu.
Mae’n rhan o becyn ehangach o fesurau sy’n cael eu cytuno yn unol â Mesur Cymru.
Mae dŵr wedi bod yn bwnc heriol, fel y gŵyr unrhyw un sy’n gyfarwydd â hanes diweddar Cymru. Rwy’n falch ein bod ar fin dod i gytundeb pendant sy’n datrys gwahaniaethau’r gorffennol ac yn darparu llwybr clir ar gyfer y dyfodol.
Mae’r agwedd hon wrth wraidd Mesur Cymru, sydd wedi’i gynllunio i roi rheolaeth i bobl Cymru dros y penderfyniadau bob dydd sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’n gwneud synnwyr bod mater hanfodol fel dŵr yn rhan o’r cytundeb hwn.