Stori newyddion

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol yn ymweld â Chymru

Ddydd Gwener 2 Rhagfyr, croesawodd Alun Cairns Liam Fox i Gymru. Aeth i ddau i ymweld â'r cwmni amddiffyn llwyddiannus Airbus a chwrdd â rhai o arweinwyr busnes Cymru.

Airbus Site Visit

Airbus Site Visit

Croesawodd Alun Cairns yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Liam Fox, i Gymru. Buont yn ymweld â’r cwmni amddiffyn pwysig, Airbus a chwrdd wedyn ag arweinwyr busnes i drafod y rôl bwysig sydd gan Gymru fel rhan o strategaeth y DU ar gyfer hybu allforion a mewnfuddsoddiad.

Dywedodd Alun Cairns:

Wrth i ni baratoi i adael yr UE, mae economi Cymru mewn sefyllfa gadarn. Mewn meysydd yn amrywio o awyrofod i amaeth a dur i wasanaethau ariannol, mae economi Cymru wedi cael enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth.

Mae Cymru wedi gwella’n arw o ran allforio, gyda’r farchnad honno bellach werth £12.6 biliwn.

Tra mae Ewrop yn farchnad bwysig i Gymru, mae gwledydd nad ydynt yn yr UE gan gynnwys Singapore, Qatar a Japan i gyd ymysg y 10 cyrchfan uchaf ar gyfer allforion o Gymru, a’r Unol Daleithiau o hyd yw marchnad fwyaf Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi busnesau. Arweinwyr busnes yw’r arbenigwyr mewn creu cyfoeth a swyddi - rydym yn barod i wneud popeth y gallwn i’w helpu i lwyddo yn fyd-eang.

Cyhoeddwyd ar 2 December 2016