Datganiad i'r wasg

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

“Rwy'n siomedig na fydd Cymru yn cyflwyno cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026, a hynny ar ôl gweithio'n agos gyda nifer o gyrff chwaraeon yng Nghymru a Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad i hwyluso a hybu cais mor bwysig".

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Rwy’n siomedig na fydd Cymru yn cyflwyno cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn 2026, a hynny ar ôl gweithio’n agos gyda nifer o gyrff chwaraeon yng Nghymru a Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad i hwyluso a hybu cais mor bwysig.

“Wrth gwrs, mae ansicrwydd am y byd ar ôl Brexit, ond mae’r manteision economaidd a gynigir gan Gemau’r Gymanwlad yn eang iawn. Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod Cymru yn dal ati i sicrhau enw da yn rhyngwladol am gynnal digwyddiadau ym myd chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol.

“Mae’n bryd i ni fynd ati gyda’r un brwdfrydedd â’n pêl-droedwyr yng nghystadleuaeth Euro 2016 i sicrhau gwobrau economaidd mawr i Gymru. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn fwy siomedig byth o gofio bod y cais ar gyfer Gemau’r Gymanwlad wedi cael ei gynnwys ym maniffesto pob plaid wleidyddol yng Nghymru yn ddiweddar.”

Cyhoeddwyd ar 26 July 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 July 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.