Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn llongyfarch Dŵr Cymru ar ei ben-blwydd yn 15 oed

Mae Alun Cairns wedi cynnal derbyniad ar gyfer Dŵr Cymru wrth i’r cwmni ddathlu 15 mlynedd fel sefydliad di-elw.

Cynhaliodd Alun Cairns heno (28 Mehefin) dderbyniad ar gyfer Dŵr Cymru wrth i’r cwmni dathlu 15 mlynedd fel sefydliad di-elw.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth westai o’r cwmni a oedd wedi ymgynnull yn Nhŷ Gwydyr, pencadlys Swyddfa Cymru yn Llundain, fod gan y cwmni “hanes i ymfalchïo ynddo”.

Dywedodd Mr Cairns:

Rwy’n cofio cael fy mriffio ar y pwnc o sefydlu Glas Cymru yn ystod fy nghyfnod yn Aelod Cynulliad, felly gallaf hawlio cysylltiad eithaf hir â’r cwmni.

Mae’n gwbl briodol mai yn Nhŷ Gwydyr mae’r derbyniad arbennig hwn yn cael ei gynnal, oherwydd wrth gwrs peiriannydd o Gymru - Syr Hugh Myddleton - oedd yn gyfrifol am ddod â dŵr glân i Lundain yn y seithfed ganrif ar ddeg.

TMae model busnes y cwmni yn hanes o lwyddiant i Gymru - mae mwy na £1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi er mwyn gwella ansawdd y broses o drin dŵr gwastraff, sydd wedi helpu Cymru i ennill 47 Baner Las.

Rwy’n siŵr y bydd yn parhau am flynyddoedd i ddod fel un o fentrau arloesol Cymru.

Cyhoeddwyd ar 28 June 2016