Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn galw perchnogion busnesau bychain yn "symbylwyr yr adfywiad economaidd"

Stephen Crabb yn cydnabod llwyddiannau busnesau Cymru

Fast Growth 50

Fast Growth 50

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn defnyddio seremoni wobrwyo bwysig i alw perchnogion busnesau bychain yng Nghymru yn “symbylwyr adfywiad economaidd Cymru”.

Bydd Stephen Crabb yn siarad yng nghinio Twf Cyflym Cymru 50 yng Nghaerdydd. Trefnir y gystadleuaeth gan y Western Mail - dyma’r 17eg flwyddyn* - ac mae’n cydnabod llwyddiannau’r cwmnïau mwyaf deinamig yn y wlad.

Yn y rownd derfynol, mae cwmni o Eryri sy’n gwneud technoleg i oeri brechlynnau heb bŵer yn y rhannau poethaf o’r byd; gwefan cymharu prisiau sydd newydd greu 70 o swyddi a’r swyddfa penseiri y tu ôl i’r adeiladau arfaethedig cyntaf ar gyfer ailddatblygu’r Sgwâr Canolog.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn disgrifio perchnogion busnesau bychain yng Nghymru fel “y mentrwyr a’r entrepreneuriaid sy’n cydio yn y cyfle i ddilyn eu breuddwydion, yn adeiladu busnes o ddim ac yn cael eu gwobrwyo wrth ei weld yn tyfu.

Mae cwmnïau arloesol a chyffrous fel y rhai yn Twf Cyflym 50 yn arddangos talent busnes yng Nghymru, sydd gyda’r gorau yn y byd. Beth am ddefnyddio’r weledigaeth a’r ddawn sydd gan ein entrepreneuriaid i roi pob ymdrech i gael economi fentrus lewyrchus.

Bydd Mr Crabb yn dweud wrth y cinio gwobrwyo fod y Llywodraeth yn creu’r hinsawdd gywir i fusnesau allu tyfu, drwy fesurau megis ailwampio’r rhwydwaith rheilffyrdd, cyflwyno band eang tra chyflym a’r Fargen Ddinesig i Gaerdydd.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud y bydd dyfodiad Pwerdy’r Gogledd hefyd yn rhoi hwb i gyflogaeth yng Nghymru wrth i fusnesau yng Nghymru “adeiladu ar gryfder y cysylltiadau sydd wedi hen sefydlu dros y ffin. Drwy gefnogi Pwerdy’r Gogledd, byddwn yn creu mwy o swyddi mewn gwlad lle mae’r niferoedd mwyaf eisoes yn mynd i’r gwaith.”

Diwedd

  • Gallwch weld enillwyr gwobrau 2014 a chefndir y digwyddiad drwy fynd i Wales Online
  • *Cafodd Twf Cyflym 50 ei ddyfeisio gan yr Athro Dylan Jones-Evans, athro entrepreneuriaeth a strategaeth yn Ysgol Fusnes Bryste
Cyhoeddwyd ar 6 November 2015