Datganiad i'r wasg

Ysgrifenyddion Gwladol yn dathlu agor Sioe Frenhinol Cymru

Heddiw (23 Gorffennaf) bydd gweinidogion llywodraeth y DU yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol cefnogi’r economi gwledig yng Nghymru drwy fynychu…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (23 Gorffennaf) bydd gweinidogion llywodraeth y DU yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddol cefnogi’r economi gwledig yng Nghymru drwy fynychu diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru.

Gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, daw ei chyd-aelod o’r Cabinet, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Caroline Spelman, i faes y sioe yn Llanelwedd, Powys.

Fel rhan o’u hamserlen brysur, byddant yn ymweld a llu o fudiadau i drafod materion sy’n wynebu’r sector amaethyddol yng Nghymru, ac yn mwynhau’r wledd o gynnyrch Cymreig sydd ar gael.

Agorir y digwyddiad yn swyddogol gan y Comisiynydd Ewropeaidd sy’n gyfrifol am amaeth a datblygu cefn gwlad, Dacian Ciolos.

Tanlinellodd Comisiynydd yr UE bwysigrwydd amaethyddiaeth i economi Ewrop yn ei araith agoriadol yn y gynhadledd Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin yn gynharach yn y mis.

Yma, dywedodd fod ffermwyr ifanc a chreu swyddi yn flaenoriaethau pwysig ar gyfer diwygio’r Polisi, a phwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi bod ffermydd bach a chanolig eu maint, a’r rhai mewn ardaloedd gwledig, yn cynnal cyflogaeth mewn cyfnod anodd.

Bydd Mrs Gillan a Mrs Spelman hefyd yn cwrdd a sefydliadau a fydd yn cynnwys Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a gyflwynodd eu hymatebion i Dasglu Economi Cefn Gwlad Swyddfa Cymru y llynedd.

Canfu’r adroddiad bod mynediad at fand eang dibynadwy a phris tanwydd yn bryderon allweddol yr oedd ffermwyr a busnesau gwledig yn eu hwynebu yng Nghymru.

Ers ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £57 miliwn ar gyfer darparu Band eang yng Nghymru, yn ogystal a chynlluniau i wella rhwydweithiau telegyfathrebu symudol mewn mannau problemus, gan gynnwys yr A470 rhwng Llandudno a Chaerdydd. Mae mesurau a gymerwyd ar dreth tanwydd yn golygu bod prisiau wrth y pwmp 10c yn is nag y byddent dan gynlluniau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth flaenorol.

Gan siarad cyn ei hymweliad a Llanelwedd, dyma oedd gan Mrs Gillan i’w ddweud:

“Yr wyf bob amser wedi tanlinellu fy nghefnogaeth ddiwyro i’n cymunedau gwledig a’r rol bwysig y maent yn ei chwarae yn cefnogi economiau Cymru a’r DU yn ei chyfanrwydd.

“Y llynedd, tynnodd Swyddfa Cymru sylw at bryderon busnesau gwledig ac amaethyddol yn adroddiad ei Thasglu Economi Cefn Gwlad. Mae’r buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth y DU yng Nghymru ers ei gyhoeddi - o ddarparu band eang i wella cyfathrebu symudol - yn brawf clir ein bod yn gwrando ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd a busnesau mewn cyfnod economaidd anodd iawn.

“Bydd penderfyniadau a gymerir gan yr Undeb Ewropeaidd yn y misoedd i ddod yn effeithio’n uniongyrchol ar bob un ohonom yma yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth yn bendant o’r farn nad yw’r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin, yn ei ffurf bresennol, yn gweithio a bod angen diwygio radical. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ffermwyr Cymru’n parhau i fod yn llwyddiannus tra’n anelu, yn y pen draw, at weld amaethyddiaeth yn dod yn gynaliadwy heb sybsidi yn y tymor hwy.”

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Caroline Spelman:

“Mae economi cefn gwlad yn hynod o bwysig i Gymru, a dyna pam bod y Llywodraeth yn gweithio’n galed i gefnogi cymunedau a busnesau er mwyn iddynt ffynnu a thyfu.

“Yr ydym yn chwalu rhwystrau masnach fel bo ffermwyr yn gallu allforio i wledydd newydd, ac yn cael gwared a biwrocratiaeth er mwyn iddynt allu bwrw iddi i amaethu yn hytrach na gwneud gwaith papur. Rydym hefyd yn negodi Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin mwy teg yn Ewrop, yn ogystal ag yn buddsoddi mewn cysylltu cefn gwlad Cymru a’r rhwydwaith band eang.”

Cyhoeddwyd ar 23 July 2012