Datganiad i'r wasg

Cymell busnesau i fanteisio ar y pecyn cyllid o £40 biliwn ym maes awyrofod

Ysgrifennydd Cymru yn cyhoeddi ail alwad ar gyfer cyllid Rhaglen Datblygu Technoleg Awyrofod Cenedlaethol

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

L-R: His Excellency Sir Peter Ricketts, HM Ambassador to France, Paul McKinlay of Airbus and Welsh Secretary David Jones inside the cabin of the new Airbus A350 XWB in Toulouse, France

Mae David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn galw ar fusnesau i wneud cais am gyfran o’r gronfa arian £40m gyda’r nod o helpu i gadw’r DU ar flaen y gad yn y diwydiant awyrofod byd-eang.

Heddiw mae Rhaglen Datblygu Technoleg Awyrofod Cenedlaethol (NATEP) wedi cyhoeddi y bydd ail gylch o ymgeisio yn cychwyn ar gyfer busnesau awyrofod ym mis Ionawr 2014.

Daeth y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ystod ei ymweliad â Toulouse, a bydd hyn yn rhoi cyfle i fwy o gwmnïau wneud cais am gyfran o’r gronfa arian i helpu i ddatblygu 100 o gynhyrchion annatblygedig neu dechnolegau’r broses gweithgynhyrchu dros y pedair blynedd nesaf.

Mae ceisiadau â gwerth o £1.2 miliwn eisoes wedi’u cyflwyno ers lansio’r rhaglen ariannu ar y cyd rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth yn Sioe awyr Paris ym mis Mehefin. Cafwyd naw cynnig yn rownd gyntaf y ceisiadau am arian, ac fe’u cyflwynwyd gan 23 cwmni i gyd ar draws y DU, sy’n dangos yr awydd yn y diwydiant am y rhaglen. Cyhoeddir ceisiadau llwyddiannus rownd un ym mis Ionawr 2014.

Gan siarad mewn digwyddiad rhwydweithio a drefnwyd gan gorff masnach y sector awyrofod, ADS Group, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyhoeddiad heddiw yn tystio i ymrwymiad y Llywodraeth hon i wneud Prydain y lle gorau yn y byd ar gyfer busnesau awyrofod.

Yng Nghymru, mae’r sector awyrofod yn gyflogwr rhanbarthol mawr, ac mae’n cyfrannu’n sylweddol i’n heconomïau lleol. Nid oes wahaniaeth pa un ai ydynt yn gwmni ar raddfa’r cyfleuster Airbus nodedig yng ngogledd Cymru, neu’n un o’r cwmnïau bach sy’n chwarae rôl hanfodol yng nghadwyn gyflenwi’r sector awyrofod. Mae pob un ohonynt yn ffynonellau rhanbarthol gwerthfawr o gadernid a thwf yn ein gwlad.

Mae’r farchnad awyrofod fyd-eang yn un sy’n datblygu drwy’r amser, ac mae’r Llywodraeth hon yn gwbl gefnogol iddi. Byddwn yn cymell busnesau i fanteisio ar y cyfle newydd hwn i gael y cymorth ychwanegol angenrheidiol i helpu’r DU i gadw ei safle blaenllaw yn y sector pwysig iawn hwn.

Mae NATEP wedi’i seilio ar fodel Rhaglen Technoleg Awyrofod Cynghrair Awyrofod Canolbarth Lloegr, ac yn ddiweddar penododd NATEP Dave Dawson yn gyfarwyddwr newydd amser llawn y rhaglen.

Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd Dave Dawson:

Mae pwysigrwydd y rhaglen hon yn amlwg wrth weld faint o’r diwydiant sydd wedi manteisio’n ddi-oed. Mae’n ddechrau cyffrous ac mae’r ceisiadau sydd wedi’u cyflwyno hyd yma yn dangos natur arloesol y sector awyrofod yn y DU, a’r awydd pendant i fod un cam ar y blaen i’r gystadleuaeth mewn marchnad fyd-eang sy’n fwyfwy anodd.

Gallai’r rownd gyntaf o geisiadau fod o gymorth i greu neu gadw hyd at 150 o swyddi yn y sector ac rwy’n falch o gael ymuno â NATEP wrth i’r gwaith fynd rhagddo i baratoi ar gyfer ail rownd o geisiadau. Bydd hyn yn rhoi cyfle i hyd yn oed mwy o fusnesau awyrofod elwa o’r gronfa werthfawr hon.

Bydd y Rhaglen yn helpu consortia bach o gwmnïau llai’r gadwyn gyflenwi i weithio gyda chyrff ymchwilio i ddatblygu technolegau newydd, gan eu rhoi mewn safle cystadleuol i ennill contractau yn y dyfodol. Mae’r Rhaglen yn cefnogi uchelgais Partneriaeth Twf y Sector Awyrofod i gadw safle blaenllaw’r DU yn y byd yn y sector awyrofod gan ddod yn ail ar ôl UDA a’r mwyaf yn Ewrop. Bydd yn cefnogi cwmnïau ar bob lefel yn y gadwyn gyflenwi i ehangu ac amrywio eu sylfaen cwsmeriaid.

Bydd NATEP yn cael ei rheoli gan gorff masnach y sector awyrofod, ADS, a bydd yn cael ei rhoi ar waith ar draws rhanbarthau Lloegr gan Gonsortiwm Awyrofod Farnborough, Cynghrair Awyrofod Canolbarth Lloegr, Cynghrair Awyrofod Gogledd Orllewin Lloegr, a Fforwm Awyrofod Gorllewin Lloegr. Caiff y Rhaglen ei chefnogi hefyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon gan y llywodraethau datganoledig ac Awyrofod Cymru ac ADS Gogledd Iwerddon yn y drefn honno.

Cyhoeddwyd ar 10 October 2013