Datganiad i'r wasg

Sam a Dan yw’r enwau y chwilir amdanynt fwyaf ar gyfer chwiliadau rhifau cofrestru personol

Mae rhifau cofrestru personol yn parhau i fod yn fwy poblogaidd nag erioed, yn ôl DVLA, gyda Sam a Dan yn cael eu datgelu fel yr enwau mwyaf poblogaidd y mae cwsmeriaid yn chwilio amdanynt.

Gyda chyfnod yr ŵyl yn nesáu, mae DVLA ar hyn o bryd yn gwerthu un rhif cofrestru bob munud (mwy na 50,000 bob mis).

Mae cyfanswm o bron i 370,000 o rifau cofrestru personol wedi’u prynu hyd yn hyn eleni gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein DVLA.

Mae’r rhesymau y mae cwsmeriaid yn dangos rhif cofrestru personol yn amrywio o hyrwyddo’u busnes, i ddangos eu ffyddlondeb i’w tîm pêl-droed.

Fodd bynnag, mae chwiliadau mwyaf poblogaidd gwefan rhifau cofrestru personol DVLA yn parhau i fod am enwau, gyda Ben, Tom ac Amy yn ymuno â Sam a Dan yn y pum term a chwilir fwyaf hyd yn hyn eleni. Yr unig enwau nad ydynt yn enwau pobl yn y 10 mwyaf poblogaidd oedd BMW a Boss . Dywedodd Damian Lawson, Pennaeth Gwerthiant Rhifau Cofrestru Personol DVLA:

Y ffordd gyflymaf a’r hawsaf i brynu, neu roi, rhif cofrestru personol ar gerbyd, neu gadw eich rhif cofrestru personol, yw defnyddio ein gwasanaethau ar-lein ar GOV.UK.

Mae’r ffigurau rydym wedi’u rhyddhau yn y cyfnod cyn yr ŵyl yn dangos bod rhifau cofrestru personol yn parhau i fod yn boblogaidd gyda chwsmeriaid, ac mae llawer o bobl yn eu hystyried fel yr anrheg neu’r atodyn perffaith ar gyfer eu car.

Gyda mwy na 50 miliwn o rifau cofrestru ar gael ar wefan Rhifau Cofrestru Personol y DVLA, a £250 yn unig yw’r pris cychwynnol, ceir cyfuniadau sydd bron yn ddi-ben-draw i fod yn addas ar gyfer chwaeth neu gyllideb unrhyw un. Mae gwybodaeth bellach ynghylch rhifau cofrestru personol ar gael ar GOV.UK.

Nodiadau i olygyddion:

Sam - 33,758, Dan - 30,986, Ben - 23,579, Tom - 23,251, Amy - 19,288, Boss - 19,103, BMW - 19,076, Lee - 18,525, Ash - 18,087, Jay - 17,155.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 11 December 2020