News story

RWM yn nodi ei ddull o werthuso safleoedd ar gyfer GDF

Mae diogelwch, cymunedau a’r amgylchedd yn ystyriaethau allweddol

Radioactive Waste Management

Bydd diogelwch, cyfleoedd i gymunedau, ac amddiffyn yr amgylchedd yn ystyriaethau allweddol wrth werthuso safleoedd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF).

Heddiw cyhoeddodd Radioactive Waste Management (RWM) ei ddull o werthuso safle GDF yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn ymgynghoriad cenedlaethol cynhwysfawr ac agored.

Dim ond gyda chymuned barod a safle addas y bydd cyfleuster o’r fath yn cael ei adeiladu. Bydd ‘ffactorau lleoli’, sy’n cael eu harwain gan bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth, yn sail i’r sgyrsiau y bydd RWM yn eu cael gyda chymunedau ac wrth werthuso pa mor addas yw safleoedd.

Mae chwe ffactor lleoli, sy’n mynd i’r afael â’r canlynol:

  • Diogelwch – mae’n rhaid i reoleiddwyr annibynnol sicrhau ac ardystio diogelwch. Ni fydd GDF yn cael ei adeiladu oni bai ein bod ni, a nhw, yn fodlon ei fod yn ddiogel.

  • Cymuned – mae cymunedau wrth galon y broses o leoli GDF, a bydd RWM yn ystyried cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd, llesiant cymunedol, a sut gall GDF fod yn gyson â gweledigaeth y gymuned sy’n cynnig lleoliad ar gyfer y cyfleuster.

  • Amgylchedd – mae adeiladu GDF yn ymdrech fawr i amddiffyn yr amgylchedd. Bydd angen i’r broses o adeiladu GDF fodloni gofynion rheoleiddio annibynnol.

  • Dichonoldeb peirianyddol – bydd angen i RWM sicrhau bod lle i ddylunio’n gynaliadwy a bod modd adeiladu a gweithredu GDF mewn lleoliad.

  • Trafnidiaeth – cludo gwastraff, pobl a deunyddiau eraill yn ddiogel.

  • Gwerth am arian – mae dyletswydd ar RWM i sicrhau gwerth am arian.

Dywedodd Prif Weithredwr RWM, Karen Wheeler:

“GDF yw’r ateb tymor hir gorau ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol etifeddol uwch ei actifedd yn ddiogel yn y DU.”

“Dim ond gyda chymuned barod a safle addas y bydd cyfleuster o’r fath yn cael ei adeiladu, felly mae’n bwysig bod cymunedau a’u cynrychiolwyr yn deall sut byddwn yn gwerthuso pa mor addas yw safle.”

“Mae’r dogfennau gwerthuso safle rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw yn nodi’r ‘ffactorau lleoli’ y byddwn yn eu defnyddio i asesu addasrwydd wrth i ni weithio gyda chymunedau sydd â diddordeb mewn archwilio manteision a goblygiadau cynnig lleoliad ar gyfer GDF.”

Published 18 February 2020