Stori newyddion

Mae gan RWM Gadeirydd Bwrdd annibynnol newydd

Mae'r Athro Malcolm Morley OBE wedi cael ei benodi’n Gadeirydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM)

Malcolm Morley OBE

Malcolm Morley OBE

Mae’r Athro Malcolm Morley OBE wedi cael ei benodi’n Gadeirydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM). Yn ystod yr hydref y llynedd, ar ôl bron 14 mlynedd yn y swydd, ymddeolodd yr Athro Morley o fod yn Brif Weithredwr Cyngor Harlow. Yn ystod ei gyfnod yno, arweiniodd y gwaith o drawsnewid y cyngor i fod yn awdurdod lleol sydd wedi llwyddo i ennill gwobrau.

Ar ôl clywed am ei benodiad, dywedodd Malcolm ei fod yn fraint iddo gael bod yn Gadeirydd RWM a’i arwain ar adeg allweddol. Nod RWM yw cynnig ateb hirdymor ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn ddiogel, a bydd hyn yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol a’n hamgylchedd rhag y gwastraff y mae’r DU wedi’i greu dros y 60 mlynedd. Bydd arbenigedd nodedig RWM mewn meysydd fel gwyddoniaeth a pheirianneg, a’i ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned, yn helpu i sicrhau prosiect seilwaith fel na welsom erioed o’r blaen yn y DU, ac rwy’n falch dros ben o fod yn rhan o’r tîm.

Cyhoeddwyd ar 9 February 2018