Datganiad i'r wasg

Adroddiad ar yr Economi Wledig yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiad band eang da, meddai David Jones

Mae diffyg cysylltiad band eang digonol a ‘mannau gwan’ yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru ymysg y rhwystredigaethau mwyaf i gymunedau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae diffyg cysylltiad band eang digonol a ‘mannau gwan’ yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru ymysg y rhwystredigaethau mwyaf i gymunedau a busnesau lleol, yn ol adroddiad gan Swyddfa Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun, 11 Gorffennaf).

Roedd David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, yn ymweld a fferm yn Sancler, Sir Gar, sydd wedi arallgyfeirio yn ganolfan llety a hamdden, er mwyn lansio canfyddiadau Adroddiad Tasglu Economi Wledig yr adran.

Y llynedd, gofynnodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, i Mr Jones arwain tasglu i drafod y prif faterion sy’n effeithio ar economiau a chymunedau gwledig ledled Cymru. Ynghyd a swyddogion Swyddfa Cymru, aeth i ymweld a chymunedau gwledig ym mhob cwr o Gymru er mwyn trafod pryderon y cymunedau amaethyddol a ffermio lleol gyda’r bobl eu hunain.

Nodwyd mai teimlo’n rhwystredig oherwydd cysylltiad band eang oedd y pryder mwyaf i’r cymunedau hynny, ynghyd a bygythiad i ddyfodol cyfleusterau lleol allweddol fel swyddfeydd post a siopau, a rheoliadau biwrocrataidd sy’n rhy llym.

Wrth lansio’r adroddiad, dywedodd Mr Jones: “Roedd yr adborth a gawsom ar gyfer Adroddiad y Tasglu Economi Wledig yn dangos bod cymunedau a busnesau lleol yn dibynnu fwyfwy ar gysylltiad band eang effeithiol.  Fodd bynnag, mewn ardaloedd gwledig, mae cyflymder band eang yn aml yn ofnadwy o araf, ac weithiau, does dim modd ei gael o gwbl.  Fe wnaeth adroddiad Ofcom yr wythnos diwethaf amlygu maint yr her rydym yn ei hwynebu, wrth i sgor Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer y seilwaith hanfodol hwn fod ymhlith y gwaethaf ym Mhrydain.

“Mae’r Llywodraeth hon yn cydnabod bod band eang dibynadwy yn un o’r ffyrdd pwysicaf o sicrhau twf yn yr unfed ganrif ar hugain.  Ym mis Chwefror, fe wnaeth y Canghellor ac Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi buddsoddiad o £10mn i sicrhau band eang cyflym iawn ar gyfer ardal Pwllheli. Bydd rhagor o arian ar gael gan Lywodraeth y DU, er mwyn i ardaloedd eraill hefyd allu manteisio ar well cyflymder band eang, er mwyn sicrhau bod gan Gymru gyfan a gweddill y DU y rhwydwaith band eang gorau yn Ewrop erbyn 2015. Rydym wedi ymrwymo i chwalu’r rhwystrau i gyfathrebu effeithiol mewn ardaloedd gwledig, gan helpu ffermwyr, teuluoedd a busnesau ledled Cymru.”

Roedd y Gweinidog yn ymweld a Llety Cynin, busnes llety a hamdden yn Sancler, i weld sut mae busnesau gwledig yn arallgyfeirio er mwyn ehangu a bod yn fwy cystadleuol.  Mae’r busnes, sef fferm ddefaid a buches odro deuluol yn wreiddiol, wedi ehangu i gynnig gwasanaethau hamdden a llety, a chyfleusterau cynadledda a busnes o’r hen goetsiws a addaswyd at y pwrpas.  

Dywedodd Mr Jones: “Mae ffermydd bach a busnesau gwledig fel Llety Cynin yn datblygu yn fusnesau llewyrchus sy’n gwybod sut i fanteisio ar y cyfryngau.  Mae’n galonogol gweld economi wledig Cymru yn addasu ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu a chwsmeriaid a thwristiaid o bedwar ban y byd.”

Mae Adroddiad llawn y Tasglu Economi Wledig ar gael ar wefan Swyddfa Cymru yn www.swyddfa.cymru.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Lety Cynin, ewch i www.lletycynin.co.uk

Cyhoeddwyd ar 11 July 2011