Datganiad i'r wasg

Sioe Frenhinol Cymru – ‘pinacl y flwyddyn’ i gymunedau cefn gwlad

Gweinidogion Swyddfa Cymru i ymweld ag arddangosfa amaethyddol fwyaf Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Royal Welsh Show

Royal Welsh Show

Bydd gweinidogion Swyddfa Cymru yn tynnu sylw at yr amrywiaeth a geir yng nghymunedau gwledig a chefn gwlad Cymru yr wythnos hon wrth iddynt ddathlu byd amaeth a chynnyrch gorau Cymru yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru (22 – 25 Gorffennaf).

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, a’r Farwnes Jenny Randerson yn ymweld â llu o sefydliadau dros gyfnod o ddeuddydd, i drafod y problemau sy’n wynebu’r sector amaethyddol, ac i weld y cynnyrch gwych sydd ar gael yng Nghymru.

Bydd Mr Jones yn bresennol ar ddiwrnod agoriadol y Sioe yn Llanelwedd (22 Gorffennaf), sy’n dathlu 50 mlynedd o fod ar ei safle parhaol eleni. Bydd yn cyfarfod ag NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru cyn mynd ar daith o amgylch maes y sioe, gan ymweld â nifer o arddangoswyr, a fydd yn cynnwys y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwald a’r Fyddin yng Nghymru.

Bydd hefyd yn pwysleisio cefnogaeth y Llywodraeth i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg wrth ymweld â stondin S4C i gyfarfod â Chadeirydd y Sianel, Huw Jones, a Phrif Weithredwr y Sianel, Ian Jones.

Mewn sgwrs cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae’r economi wledig yn eithriadol o bwysig i Gymru, a dyna pam mae’r Llywodraeth hon yn gweithio’n galed i gefnogi cymunedau a busnesau er mwyn iddynt dyfu a ffynnu.

Yn ystod f’ymweliad masnachu a buddsoddi â Hong Kong yn gynharach eleni, cefais gyfle i weld â’m llygaid fy hun gymaint yw brwdfrydedd Asia am gig oen Cymru yn arbennig. “Mae Hong Kong yn farchnad bwysig i gig oen Cymru ac mae wedi bod ers nifer o flynyddoedd, gan helpu i roi hwb i’w enw da yn y Dwyrain Pell fel cynnyrch premiwm.

Yn nes adref, mae buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghymru o ran darparu band eang a gwella cyfathrebu symudol yn dangos yn glir sut rydym yn chwalu rhwystrau er mwyn hybu twf yr economi wledig yng Nghymru.

Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o’r colledion ariannol enfawr a’r straen emosiynol a brofodd ffermwyr yn sgil yr eira a syrthiodd ar draws y DU yn gynharach eleni. Rwyf yma heddiw i ddysgu mwy ac i weld drosof fy hun sut mae safonau ffermio yng Nghymru wedi aros yn uchel er gwaethaf y cyfnod anodd hwn.

Bydd y Farwnes Jenny Randerson, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sydd â chyfrifoldeb dros faterion gwledig, yn ymweld â maes y sioe ddydd Iau 25 Gorffennaf. Yn ogystal â chyfarfod â mudiadau ffermio, bydd ei hamserlen lawn o ymweliadau ag arddangoswyr hefyd yn cynnwys cyfarfodydd â mudiadau elusennol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru a Hybu Cig Cymru.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Y Sioe Frenhinol yw’r llwyfan perffaith ar gyfer dathlu cyfoeth ac amrywiaeth cefn gwlad Cymru.

O ansawdd ein hallforion cig, i ysblander ein gerddi botaneg a’n hadeiladau treftadaeth, mae’r enw da sydd gan ddiwylliant a chynnyrch Cymru gartref a thramor yn rhywbeth i’w ddathlu.

Un flwyddyn ar ôl y llall, mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i Lanelwedd i brofi’r achlysur pwysig hwn yn y calendr amaethyddol, ac rwy’n sicr na fydd eleni ddim gwahanol”.

Cyhoeddwyd ar 22 July 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 July 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.