Datganiad i'r wasg

Mae'r gwaith o gyflwyno Band Eang Cyflym Iawn yn yr ardaloedd gwledig yn cyflymu

Cymru yn arwain y ffordd gyda chyflwyno band eang

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Superfast broadband

Mae ystadegau newydd a ryddhawyd heddiw yn dangos bod ymgyrch y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn ar draws y wlad wedi cyflymu’n ddramatig. Ddiwedd 2013, roedd nifer y safleoedd a oedd yn elwa o fand eang cyflym iawn yn sgîl y rhaglen wedi bron â threblu i 273,731.

Mae’r prosiect, sy’n werth £1.2 biliwn, yn rhan allweddol o gynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth i sicrhau dyfodol Prydain drwy ddarparu seilwaith gwell, ac mae’r prosiect ar y trywydd iawn yn hynny o beth. Ar sail perfformiad blaenorol a’r ystadegau newydd hyn, amcangyfrifir bod dros 300,000 o safleoedd yn y DU yn gallu cael gafael ar gyflymderau cyflym iawn erbyn hyn yn sgîl y rhaglen, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau beunyddiol pobl. Bydd nifer y cartrefi a’r safleoedd a fydd yn cael mynediad yn codi o 10,000 yr wythnos i 40,000 yr wythnos erbyn yr haf.

Mae’r ystadegau’n dangos bod gwaith y Llywodraeth yn gweddnewid band eang mewn ardaloedd gwledig yn mynd rhagddo’n arbennig o dda, ac mae ar y trywydd iawn i ddarparu band eang cyflym iawn i 95% o’r wlad erbyn 2017. Mae llawer eisoes yn mwynhau’r manteision, gyda theuluoedd yn gallu ffrydio ffilmiau a rhaglenni teledu ar yr un pryd, lawrlwytho cerddoriaeth a llwytho lluniau a fideos i safleoedd cyfryngu cymdeithasol mewn eiliadau. Gall busnesau gydweithio â chymheiriaid a chwsmeriaid drwy alwadau fideo neu gynhadledd neu newid eu caledwedd a’u trwyddedau meddalwedd drud am ffeiliau, pŵer prosesu a meddalwedd o gyfrifiadura cwmwl.

Dyma enghreifftiau o’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma:

  • Mae nifer y safleoedd sy’n gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn oherwydd y prosiect wedi bron â threblu ers mis Medi (273,731 ar 31.12.13, i fyny o 111,968 yn 31.09.13)
  • Mae gan hanner y prosiectau o gwmpas y DU gabinetau “byw” yn barod, gyda busnesau a chartrefi lleol yn elwa o fynediad cyflym iawn
  • Mae oddeutu 1000 o gabinetau wedi “mynd yn fyw” mewn ardaloedd ledled y DU
  • Mae’r nifer sy’n derbyn band eang cyflym iawn yn y DU eisoes yn uwch nag yn yr Almaen, yr Eidal a Sbaen, a mwy na dwbl y nifer yn Ffrainc.
  • Mae llawer o brosiectau eisoes ar y blaen gyda’u hamserlen. Eisoes, mae 10,000 o safleoedd yr wythnos yn cael mynediad i fand eang cyflym iawn, a bydd y nifer yn codi i 25,000 yr wythnos yn ystod gwanwyn 2014, a chodi wedyn i 40,000 yr wythnos erbyn haf 2014.

Dywedodd Maria Miller, yr Ysgrifennydd Diwylliant:

Mae cael band eang cyflym iawn yn hynod bwysig i bobl ledled y wlad pa un a ydynt ei angen ar gyfer gwaith neu dim ond i lawrlwytho cerddoriaeth neu ffilmiau. Mae’r ffigurau hyn yn profi bod momentwm go iawn erbyn hyn gyda miloedd o gartrefi a busnesau’n cael mynediad bob wythnos. Dyma ran o’n cynllun economaidd hirdymor a bydd band eang yn hanfodol er mwyn ysgogi twf a hybu economïau lleol ledled y DU.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cynlluniau’r Llywodraeth hon ar gyfer cyflwyno band eang ar draws y DU yn hynod o uchelgeisiol - ond maent yn uchelgeisiau sy’n cael eu gwireddu’n sydyn.

Yn gynharach y mis hwn, cadarnhawyd bod 100,000 o gartrefi a busnesau Cymru bellach yn gallu manteisio ar gyflymderau cyflym iawn ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno band eang cyflym iawn. Mae’r ffigurau cadarnhaol hyn, a gyhoeddwyd heddiw, yn dyst i sut y mae arian Llywodraeth y DU yn galluogi Cymru i arwain y ffordd yn y gwaith o ddarparu seilwaith band eang y mae’r wlad hon ei angen i gystadlu â’r gorau yn y byd.

Dywedodd Stephen Crabb AS, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sydd â chyfrifoldeb dros fand eang:

Ni ellir pwysleisio gormod y cyfraniad y bydd gwaith y Llywodraeth hon yn cyflwyno band eang cyflym iawn yn ei wneud i dwf economaidd Cymru a’r DU drwyddi draw.

Drwy gael mynediad i fand eang cyflym iawn, gall busnesau ehangu, datblygu marchnadoedd newydd a chreu’r swyddi y mae eu hangen arnom. O’n hardaloedd gwledig i’n dinasoedd, mae’r Llywodraeth hon yn sicrhau y bydd gan bobl Cymru rwydwaith band eang sy’n addas i’r oes ddigidol - ni waeth ble y maent.

Bydd manylion sut y bydd £250m arall yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol fel rhan o’r prosiect i sicrhau bod 95% o safleoedd y DU yn gallu cael band eang cyflym iawn erbyn 2017 yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae’r adroddiad i’w weld yma

  2. Rhaglen fuddsoddi gan y Llywodraeth mewn seilwaith band eang a chyfathrebu ledled y DU yw Superfast Britain. Mae’n cael ei chynnal gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac mae’r buddsoddiad hwn yn helpu busnesau i dyfu, mae’n creu swyddi a bydd yn gwneud Prydain yn fwy cystadleuol yn y ras fyd-eang. Mae tair elfen i’r portffolio:

  • £790m i ymestyn band eang cyflym iawn i 95% o’r DU erbyn 2017
  • £150m i ddarparu band eang cyflym i fusnesau mewn 22 dinas
  • £150m i wella ansawdd a derbyniad gwasanaethau rhwydwaith data sylfaenol a ffonau symudol

Mae Superfast Britain, a weinyddir ar ran y Llywodraeth gan Broadband Delivery UK (BDUK), yn gweddnewid Prydain drwy hybu twf, galluogi pobl i ennill sgiliau a dysgu a gwella ansawdd bywyd. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma

  1. Dywed yr adroddiad, UK Broadband Impact Study – Impact Report, gan y dadansoddwyr SQW (gyda Cambridge Econometrics) y bydd buddsoddiad y Llywodraeth mewn band eang cyflym iawn yn rhoi hwb sylweddol i economi’r DU, gan gynnig enillion net o £20 am bob £1 a fuddsoddir. Gellir gweld yr adroddiad yma

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2014 show all updates
  1. Translation added

  2. Amend to second bullet point from 'around the country' to 'across the UK'

  3. First published.