Yr RFCA dros Gymru yn croesawu 150 o westeion i’r Briff Blynyddol
Croesawodd y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid (RFCA) dros Gymru fwy na 150 o westeion i’w Briff Blynyddol.

Annual Briefing
Croesawodd y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid (RFCA) dros Gymru fwy na 150 o westeion i’w Briff Blynyddol.
Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Iau 20 Hydref yn HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd a mynychodd cynulleidfa amrywiol, gan gynnwys aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, sefydliadau partner, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Rhoddodd y Brigadydd Russ Wardle OBE DL, Cadeirydd yr RFCA dros Gymru a’r Cyrnol a’r Prif Weithredwr Dominic Morgan OBE ddiweddariad ar y flwyddyn a aeth heibio gan fyfyrio ar gyflawniadau’r ysgrifenyddiaeth.
Eglurodd y ddau allbynnau pileri allweddol yr RFCA dros Gymru sef y Cadetiaid, Milwyr wrth Gefn, Ystadau ac Ymgysylltu.
Prif siaradwr y digwyddiad oedd yr Athro Simon Denny BA MA PhD, cyn Ddeon Gweithredol ym Mhrifysgol Northampton a phrif awdur adroddiad annibynnol pwysig yn dathlu effaith bositif Lluoedd y Cadetiaid.
Rhoddodd ddiweddariad i’r gynulleidfa ar adroddiad y brifysgol i effaith gymdeithasol ac adenillion ar fuddsoddiad Lluoedd y Cadetiaid.
Sean Molino BCA o Gwmni Buddiannau Cymunedol Gwobrau’r Cynfilwyr oedd y siaradwr gwadd o’r elusen filwrol, gyda’r digwyddiad yn cael ei lywio gan gyflwynydd newyddion ITV, Andrea Byrne.