Ymateb i: Adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar Fil Cymru
Llywodraeth y DU ymateb i: Adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar Fil Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig:
Mae Bil Cymru yn gyfle hanesyddol i Gynulliad Cymru sicrhau rhagor o bwerau, a bydd yn creu setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru. Holl bwrpas y Bil yw ei gwneud yn llawer cliriach pa bwerau sy’n cael eu harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol a pha bwerau sy’n cael eu harfer gan Senedd San Steffan.
Mae’r Bil yn gweithredu ar y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi trawsbleidiol ac mae wedi cael ei newid yn sylweddol yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, y Cynulliad ac academyddion cyfansoddiadol dros y 18 mis diwethaf.
Bydd y trafodaethau hyn yn parhau wrth i’r Bil fynd drwy’r Senedd, a bydd digon o gyfle i drafod diwygiadau pellach dros yr wythnosau nesaf.