Datganiad i'r wasg

Data gwell nag erioed ar swyddi yn dangos cryfder y farchnad swyddi yng Nghymru

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi syrthio i ffigur is nag erioed gyda nifer uwch nag erioed o bobl yn awr mewn gwaith.

Mae’r penawdau o Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur yn cynnwys:

  • Mae’r lefel gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 18,000 dros y chwarter i 1.457 miliwn ac mae’r gyfradd i fyny 1.2 pwynt canran i 73.2 y cant. Yn ystod y flwyddyn, mae’r lefel wedi cynyddu 34,000 ac roedd y gyfradd i fyny 1.9 pwynt canran. Mae’r lefel gyflogaeth a’r gyfradd gyflogaeth ar y lefel uchaf ar gofnod
  • Mae’r lefel ddiweithdra wedi gostwng 10,000 dros y chwarter i 63,000 ac mae’r gyfradd i lawr 0.7 pwynt canran i 4.1 y cant. Yn ystod y flwyddyn, gostyngodd y lefel 35,000 ac mae’r gyfradd wedi gostwng 2.3 pwynt canran. Mae lefel ddiweithdra ar ei hisaf er 2005 ac mae’r gyfradd ddiweithdra ar ei hisaf ar gofnod. Mae’r gyfradd yng Nghymru bellach 0.8 pwynt canran yn is na’r gyfradd ddiweithdra ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, sy’n 4.9 y cant
  • Mae anweithgarwch economaidd i lawr 14,000 dros y chwarter i 449,000 ac mae’r gyfradd wedi gostwng 0.7 pwynt canran i 23.6. Yn ystod y flwyddyn, mae’r lefel wedi gostwng 2,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.1 pwynt canran
  • Mae’r nifer sy’n hawlio wedi cynyddu 300 (0.7 y cant) rhwng mis Gorffennaf a mis Awst, ond roedd wedi syrthio 2,100 yn ystod y flwyddyn. Mae’r gyfradd bellach yn 2.9 y cant.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r data ardderchog hwn ar swyddi yn brawf o allu economi Cymru i greu swyddi a lleihau diweithdra. Mae mwy o bobl mewn gwaith nag erioed o’r blaen ac mae’r gyfradd ddiweithdra yn is nag erioed wrth i farchnad swyddi Cymru brysur gau’r bwlch ar weddill y DU.

Y dangosyddion yw bod diwygio lles wedi chwarae ei ran gyda rhai o’r cwympiadau mwyaf mewn diweithdra i’w gweld mewn llefydd fel Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chaerffili. Mae dychwelyd i’r gwaith yn awr yn gwneud mwy o synnwyr ariannol nag erioed, ac rydym yn dirwyn i ben y diwylliant lle ceid cartrefi heb ddim sôn am riant mewn gwaith sydd wedi difetha rhannau o’n gwlad.

Yr hyn y mae ffigyrau heddiw yn ei adlewyrchu yw economi hyderus sy’n carlamu ymlaen gan elwa ar y penderfyniadau anodd a wnaeth y Llywodraeth flaenorol. Tra bydd Brexit yn ddi-os yn dod â heriau yn ei sgil, mae’r economi yng Nghymru mewn cyflwr gwych i wynebu’r cyfnod o drawsnewid sydd o’n blaenau.

Cyhoeddwyd ar 14 September 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 September 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.