Datganiad i'r wasg

Raytheon UK yn buddsoddi yng Ngogledd Cymru

Alun Cairns: Mae'r farchnad amddiffyn yn sbardun mawr i economi Cymru

Heddiw (30 Mawrth), dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y gallai’r cyfuniad hanfodol o safleoedd gweithgynhyrchu a gweithluoedd medrus yng Nghymru fod yn sbardun mawr ar gyfer buddsoddi a chreu swyddi.

Daw hyn ar ôl i Rayethon UK agor y drysau i Hangar 119 ym Maes Awyr Penarlâg yng Ngogledd Cymru – sef cyfleuster newydd a fydd yn meithrin y gwaith o ddatblygu galluoedd newydd a blaengar ar gyfer y sector awyrofod a’r sector amddiffyn ym Mhrydain.

Mae Rayethon UK yn cyflogi 145 o arbenigwyr medrus iawn ym maes addasu ac integreiddio awyrennau ar ei safle ym Mrychdyn, ac mae 500 o swyddi eraill ynghlwm â’i weithgareddau awyr eraill ledled Cymru.

Mae ei dechnoleg yn cael ei defnyddio yn rhai o systemau gwybodaeth a goruchwylio awyrennau mwyaf dyfeisgar y byd, gan gynnwys system awyrennau Sentinel, awyrennau goruchwylio â chriw mwyaf blaengar y DU, a ddarparwyd i Weinyddiaeth Amddiffyn y DU gan y tîm ym Mrychdyn.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae buddsoddiad parhaus Rayethon yng Ngogledd Cymru unwaith eto’n amlygu’r hyder sydd gan y cwmni yn sylfaen sgiliau ac amgylchedd busnes Cymru, ac mae’n pwysleisio’r ffaith bod Cymru ar agor i fusnes.

Mae galw mawr am wasanaethau a chynnyrch o Brydain, ac am wasanaethau a chynnyrch a gynhyrchir yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i hynny. Fel gwlad sy’n rhan o Deyrnas Unedig gref, mae ein proffil byd-eang yn uwch nag erioed o’r blaen.

Drwy Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU, rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar ein cryfderau yn y meysydd hyn, er mwyn gwneud Cymru yn un o’r llefydd mwyaf cystadleuol yn y DU i ddechrau a thyfu busnes.

Dywedodd Richard Daniel, prif weithredwr Rayethon UK:

Mae ein cyfleuster newydd yng Ngogledd Cymru yn rhoi potensial aruthrol i ni a bydd yn cynyddu ein heffaith economaidd ar yr ardal y mae’r cwmni wedi bod yn cyfrannu ati er 1993. Rydyn ni wedi creu oddeutu 50 o swyddi ym Mrychdyn yn ystod y 18 mis diwethaf, ac yn rhagweld y bydd angen 200 o swyddi eraill yn ystod y tair blynedd nesaf, yn ddibynnol ar y cyfleoedd allforio.

Yn ei Phapur Gwyrdd, Adeiladu ein Strategaeth Ddiwydiannol, mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu deg o bileri allweddol i ganolbwyntio arnynt ac i’w trafod fel rhan o ymgynghoriad 12 wythnos, gan wahodd cyfraniadau gan ddiwydiannau, busnesau, grwpiau lleol a gweithwyr ledled Cymru.

Mae uchelgais clir o greu economi sy’n gweithio i bawb yn y Papur Gwyrdd, ac mae’n cynnwys nifer o gyhoeddiadau arfaethedig ar gyfer rhoi budd i ardaloedd Cymru, er enghraifft:

  • Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a sefydliad Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig yn creu cyfleoedd newydd i brifysgolion o safon fyd-eang yng Nghymru wneud cais am gyllid gan Lywodraeth y DU.
  • Cydnabod rhagoriaeth o ran ymchwil ac arloesi ledled y DU a buddsoddi £4.7 biliwn ychwanegol erbyn 2020-21.
  • Buddsoddi mewn seilwaith digidol, sydd wedi bod yn rhwystr ar gyfer twf economaidd ledled Cymru’n rhy hir.
  • Dod o hyd i ffordd gynaliadwy o gefnogi diwydiannau ynni-ddwys, fel y diwydiant dur, â’u costau ynni. Mae’r Llywodraeth wedi estyn gwahoddiad agored i ddiwydiannau, busnesau a grwpiau lleol o bob cwr o Gymru fynd i wefan GOV.UK er mwyn helpu i bennu’r blaenoriaethau ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol fodern. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, ac ar ôl hynny, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion cyn cyhoeddi Papur Gwyn yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.
Cyhoeddwyd ar 30 March 2017