Datganiad i'r wasg

Dioddefwyr trais rhywiol yng Nghymru i dderbyn cyllid gan Lywodraeth y DU 

Dyfarnwyd cyllid i chwe chanolfan ledled Cymru i alluogi mwy o ddioddefwyr i gael cyngor, cymorth a chwnsela

  • Canolfannau cymorth trais ledled Cymru yn derbyn cynnydd o 50 y cant mewn cyllid
  • Rhan o’r cynnydd mewn cyllid ledled y DU o £32 miliwn dros dair blynedd
  • Mwy o ddioddefwyr nag erioed dderbyn cymorth wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bydd dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhywiol ar draws Cymru yn elwa o hwb ariannol gwerth 50 y cant ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol.

Mae dros £ 1.3 m wedi’i ddyfarnu dros ddwy flynedd i chwe chanolfan cymorth trais rhywiol ledled Cymru.

Bydd yr arian hwn yn golygu y bydd mwy o ddioddefwyr trais nag erioed yn gallu cael cyngor, cymorth a chwnsela hanfodol.

Cofnodwyd dros 8000 o droseddau rhywiol gan yr heddlu ledled Cymru y llynedd, ac mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o gynnydd o 50 y cant ar gyfer gwasanaethau ledled Cymru a Lloegr – cyfanswm o £ 32m dros dair blynedd hyd at 2022.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn buddsoddi £1 miliwni benodi mwy o gynghorwyr trais rhywiol annibynnol (ISVAs) ledled y DU, sy’n rhoi cyngor a chymorth i ddioddefwyr, gan weithredu fel y cyswllt rhwng yr heddlu, y gwasanaethau cymorth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae treisio a thrais rhywiol yn droseddau gwirioneddol brawychus sy’n cael effaith hirdymor ar fywydau dioddefwyr.

Mae’n galondid i mi y bydd mudiadau ym mhob un o bedair ardal heddlu Cymru yn gallu helpu mwy o bobl i gael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth y DU.

Cofnodwyd mwy na 160,000 o droseddau rhywiol gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr y llynedd. Mae’r £32 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU yn ariannu 76 o wasanaethau cymorth trais yn uniongyrchol a 18 arall drwy Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu dros gyfnod o dair blynedd, ac mae’n sicrhau bod cymorth hanfodol ar gael i ddioddefwyr ym mhob un o 42 o ardaloedd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.

Dyma’r ail dro i Lywodraeth y DU gynyddu’r cyllid dros y flwyddyn ddiwethaf i’r gronfa cymorth trais rhywiol, gan ddod ag ef i £12 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill. Bydd y cynnydd hwn yn caniatáu i’n gwasanaethau lleol gynllunio ar gyfer y dyfodol – gan gynnig sefydlogrwydd a diogelwch iddynt fel y gallant ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau y mae taer angen amdanynt ar ddioddefwyr.

Mae’r newid yn adeiladu ar gyfreithiau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a fydd yn sicrhau bod troseddwyr treisgar a rhywiol difrifol yn treulio mwy o amser y tu ôl i fariau – gan sicrhau bod y cyhoedd a dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn rhag y troseddau erchyll hyn.

DIWEDD

Rhagor o wybodaeth:

Dyfarnwyd cyllid i’r chwe canolfan cymorth trais rhywiol a ganlyn:

Ardal Comisiynydd Heddlu a Throsedd Lleoliad Darparwr
Dyfed Powys Aberystwyth Mid Wales Rape Support Centre
Dyfed Powys Drenewydd New Pathways (Dyfed Powys)
Gwent Torfaen Cyfannol Women’s Aid
Gogledd Cymru Bangor Rape And Sexual Abuse Support Centre North Wales
Gogledd Cymru Wrexham Stepping Stones North Wales
De Cymru Merthyr Tydfil New Pathways (South Wales)

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd dioddefwyr ledled Cymru yn elwa o gael hwb ariannol o dros £220,000, gan godi cyfanswm cyllid y MoJ ar gyfer gwasanaethau cymorth trais rhywiol yng Nghymru i dros £680,000 y flwyddyn am 2020-22.
  • Mae cyllid MOJ ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr wedi dyblu bron ers 2012/13 (drwy gynyddu refeniw a godir gan droseddwyr). Eleni fe ddyfarnodd tua £92 miliwn ar y gwasanaethau hyn. Dros y blynyddoedd blaenorol, mae hyn wedi bod yn £ 96m oherwydd cyfraniad o £ 4m at gytundeb caethwasiaeth fodern y Swyddfa Gartref – Mae’r arian hwn wedi’i drosglwyddo’n uniongyrchol i’r Swyddfa Gartref erbyn hyn.
  • Mae MOJ yn cyfrannu at wasanaethau cymorth i dreisio ledled Cymru a Lloegr ac mae lefel y cyllid grant yn amrywio. Yn 2018/19 dyrannwyd tua £7.2 miliwn gennym i’r canolfannau hyn i ddarparu cymorth arbenigol annibynnol i ddioddefwyr trais rhywiol gan fenywod a dynion, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin plant yn rhywiol. Cynyddodd hyn i £8 miliwn yn 2019/20 a bydd yn cynyddu i £ 12m bellach y flwyddyn ar gyfer 2020-2022.
  • Yn 2019/20, dyranwyd Comisiynwyr yr heddlu a throseddu o tua £68 miliwn o gyllid i gomisiynu gwasanaethau cymorth emosiynol ac ymarferol yn lleol i ddioddefwyr troseddau, gan gynnwys dioddefwyr trais rhywiol, gan eu bod yn y sefyllfa orau i ymateb i angen lleol.
  • Amcangyfrifodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fod 20% o fenywod a 4% o ddynion wedi profi rhyw fath o ymosodiad rhywiol ers iddynt fod yn 16 oed, sy’n cyfateb i tua 3.4 miliwn o ddioddefwyr benywaidd a 631,000 o ddioddefwyr gwrywaidd.
  • Ym mis Medi 2018, cyhoeddwyd y strategaeth gyntaf ar draws y llywodraeth ar gyfer dioddefwyr, a oedd yn amlinellu sut y byddwn yn gwella’r cymorth a gynigir i ddioddefwyr ar bob cam o’r system gyfiawnder.
Cyhoeddwyd ar 7 February 2020