Stori newyddion

Bydd trydaneiddio’r rheilffordd yn hwb i Dde a Gorllewin Cymru, medd Cheryl Gillan

Roedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw (Mawrth 1) y bydd Prif Reilffordd y Great Western i Dde Cymru yn …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Roedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw (Mawrth 1) y bydd Prif Reilffordd y Great Western i Dde Cymru yn cael ei thrydaneiddio.

Dywedodd Mrs Gillan fod y prosiect yn rhan hollbwysig o’r gwaith i sicrhau adferiad economaidd Cymru ac yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i foderneiddio seilwaith rheilffyrdd a chwtogi ar amseroedd siwrneiau.

Croesawodd hefyd gyhoeddiad arall heddiw y byddai’r Llywodraeth yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar bosibilrwydd trydaneiddio gwasanaethau Rheilffyrdd y Cymoedd.

Dywedodd Mrs Gillan y bydd Swyddfa Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu achos busnes pellach i drydaneiddio rheilffyrdd cymudwyr i’r gogledd o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdar, Merthyr Tudful a Rhymni, yn ogystal a Phenarth a’r Barri ym Mro Morgannwg.

Cadarnhaodd hefyd fod yr achos dros drydaneiddio i Abertawe hefyd yn dal i gael ei adolygu.

Gan groesawu’r cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth, Philip Hammond, dywedodd Mrs Gillan: “Ar Ddydd Gŵyl Dewi mae hyn yn newyddion gwych i bob rhan o Dde a Gorllewin Cymru.  Bydd y buddsoddiad hwn sydd werth £1 biliwn yn sicrhau holl fanteision a gwelliannau rheilffordd wedi’i thrydaneiddio i Gymru - cyflymu cynt a siwrneiau sy’n fwy cyfforddus, yn lanach ac yn wyrddach.

“Mae ymestyn trydaneiddio i Dde Cymru yn cydnabod bod gwella seilwaith rheilffyrdd a lleihau amseroedd teithio yn gydrannau hollbwysig ar gyfer sicrhau adferiad economaidd llwyddiannus yng Nghymru.

“Bydd teithwyr ar drenau yn ol ac ymlaen i Dde Cymru hefyd yn elwa o amseroedd teithio byrrach, mwy o ddibynadwyedd a siwrneiau mwy cyfforddus. Bydd y trenau wedi’u trydaneiddio hefyd yn cynnig gwell ansawdd aer a llai o allyriadau carbon o’u cymharu a threnau disel cyfatebol.”

Dywedodd Mrs Gillan fod y Llywodraeth wedi ystyried yn ofalus yr holl ddewisiadau ar gyfer gwella’r seilwaith i Gymru.

“Yn wahanol i’r Llywodraeth flaenorol, a gafodd 13 mlynedd i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western ond a fethodd wneud dim heblaw triciau a oedd yn sicrhau penawdau, mae’r Llywodraeth glymblaid hon wedi gweithredu’n ddiymdroi ond yn gyfrifol drwy archwilio’r achos o blaid trydaneiddio i Dde Cymru yn drylwyr.

“Mae’r achos dros drydaneiddio i Abertawe yn dal i gael ei adolygu a chyhoeddiad heddiw yw’r cam cyntaf at wella cysylltiadau Cymru i weddill rhwydwaith rheilffyrdd y DU.

“Yn bwysig, ar ol trydaneiddio i Gaerdydd, bydd Abertawe hefyd yn elwa o amseroedd teithio cynt a cherbydau newydd.”

Dywedodd Mrs Gillan fod yr achos dros drydaneiddio rheilffyrdd cymudwyr o Gaerdydd yn gryf.

Ychwanegodd: “Mae hyn i gyd yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi trydaneiddio blaengar o’r rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru a gweddill y DU. Rwyf yn ddiolchgar i’r Gweinidog dros Drafnidiaeth am gadarnhau ein hymrwymiad i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu achos busnes dros drydaneiddio rhai o reilffyrdd y Cymoedd i’r gogledd o Gaerdydd.”

Cyhoeddwyd ar 1 March 2011