Datganiad i'r wasg

Rhoi hyfforddeion ar y ffordd i gyfrifyddiaeth

Mae DVLA yn cefnogi 12 aelod o staff sy’n gweithio tuag at gymwysterau cyfrifyddiaeth, i’w rhoi ar y trywydd cywir i ddod yn gyfrifyddion cymwysedig.

Mae DVLA yn buddsoddi yn ei dyfodol trwy roi ei staff cyllid ar y ffordd i gyfrifyddiaeth.

Ar hyn o bryd mae 12 aelod o staff yn cael eu cefnogi gan yr asiantaeth wrth iddynt weithio tuag at gymwysterau cyfrifyddiaeth. Mae chwech ohonynt ar y trywydd iawn i gwblhau Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (ATT), gyda’r chwech arall wrthi’n astudio gyda Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).

Mae un aelod o’r tîm, Emily Price, 27 oed, o Abertawe, ar fin gorffen ei hastudiaethau gyda’r ACCA.

Dywed fod y cydbwysedd rhwng astudio a gweithio, yn ogystal â’r profiad a gynigir wrth weithio yn DVLA, wedi bod yn eithriadol ac wedi darparu’r sgiliau sydd eu hangen arni ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol.

“Rydw i wedi cael cyfle i wneud dwy rôl hyd yn hyn,” eglura Emily.

“Roedd yr un cyntaf yn cynnwys cyfrifon rhaglenni, a gweithio ar gostio a chyllidebau ar gyfer prosiectau o fewn y DVLA.

“Yna, y llynedd, fe symudais i’r uned adrodd ariannol – dyna’r tîm sy’n paratoi datganiadau ariannol, sydd wir yn unol â’r cwrs a’r arholiadau dwi’n astudio ar eu cyfer.

“Mae gweithio yn y DVLA wrth astudio yn help mawr i mi, dwi’n gallu cysylltu beth rydw i’n ei wneud yn fy rôl i’m harholiadau a chysylltu beth rwy’n dysgu amdano i’m swydd. Mae’n mynd yn andros o dda.”

Fe wnaeth Emily, sydd â gradd mewn cyfrifyddiaeth, ymuno â’r DVLA yn 2016.

Dechreuodd ar ei hastudiaethau ACCA mewn coleg lleol, ond yn ddiweddarach newidiodd i ddysgu gartref gan ei fod yn cynnig mwy o hyblygrwydd iddi, ac ar hyn o bryd mae ar y trywydd iawn i gymhwyso fel cyfrifydd siartredig ym mis Mawrth.

“Mae yna ddarlith ar-lein gyda thiwtor, sy’n bosibl i mi ei wneud gartref,” meddai.

“Yn y coleg, roedd yn rhaid i mi gymryd amser i gyrraedd yno ac eistedd trwy’r dosbarth, ond gyda’r darlithoedd ar-lein, rydych chi’n gallu gweithio yn ystod y dydd a gwneud y darlithoedd gyda’r nos. Mae’n caniatáu imi ddefnyddio fy absenoldeb astudio pan rydw i eisiau.

“Mae’r DVLA yn cynnig absenoldeb astudio felly rwy’n cael set benodol o oriau fesul modiwl. Mae i fyny i mi sut rwy’n ei ddefnyddio, dwi’n gallu ddefnyddio hanner diwrnod yr wythnos neu ei gasglu a’i ddefnyddio cyn arholiad.

“Mae’r gefnogaeth dwi’n ei gael gan fy nhîm a’r asiantaeth wedi helpu’n aruthrol. Mae wedi bod yn anodd – mae’r cydbwysedd rhwng gwaith, bywyd ac astudio yn anodd ar adegau ond dwi’n dod drwyddi ac rwy’n gwybod y bydd yn werth y drafferth yn y pen draw.”

Mae gan yr asiantaeth 14 o gyfrifwyr a gymhwysodd wrth hyfforddi yn y DVLA, yn ogystal â 13 arall a gymhwysodd cyn ymuno.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid DVLA, Rachael Cunningham:

Rydym yn falch o fuddsoddi yn ein pobl ac mae’n wych ei weld yn talu ar ei ganfed wrth i Emily ffynnu fel rhan o’n tîm.

Mae hyfforddiant a chymwysterau fel y rhain yn sicrhau bod ein staff yn effeithiol, yn effeithlon ac yn gallu gweithio ar y safon uchaf.

Cael gwybod mwy ynghylch ein swyddi presennol a gweithio i DVLA.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 7 February 2020