Datganiad i'r wasg

Penodi’r Athro Brian Morgan i fwrdd rheoleiddiol

Llywodraeth y DU yn penodi aelodau newydd i’r Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns benodiad yr Athro Brian Morgan i’r Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol annibynnol (RPC).

Ar hyn o bryd, mae’r Athro Morgan yn Athro entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn gyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol.

Corff annibynnol yw’r Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol (RPC) a noddir gan yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n asesu effaith cynigion rheoleiddio a dadreoleiddio newydd ar fusnesau. Mae’r Athro Morgan yn ymuno â phedwar penodiad newydd arall i’r bwrdd - ac un ail-benodiad. Mae gan bob aelod brofiad ac arbenigedd sylweddol er mwyn chwarae rhan allweddol wrth oruchwylio agenda rheoliadau gwell y llywodraeth.

Wrth sôn am benodiad yr Athro Morgan, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae’r RPC yn gorff sy’n chwarae rhan mor bwysig wrth ddarparu system wirio gadarn a diduedd ynglŷn â diben ac effeithiau gweithgarwch rheoleiddiol arfaethedig y llywodraeth.

Daw Brian â degawdau o brofiad ac arweinyddiaeth mewn economeg a mentergarwch gydag ef, ac rwy’n falch iawn ei weld yn cael ei benodi i’r swydd bwysig hon.

Does dim amheuaeth y bydd yn gweithio’n effeithiol gyda’i gyd-aelodau yn eu hymdrechion i wireddu canlyniadau rheoleiddio gwell sy’n hyrwyddo twf a swyddi, ac yn diogelu buddiannau cymdeithas.

Gwneir penodiadau i’r RPC gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol yn unol â Chod Ymarfer yr OCPA.

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Yr Arglwydd Henley:

Mae’r Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol wedi’i gymeradwyo gan fusnesau am y gwaith craffu annibynnol a chadarn y mae’n ei ddarparu ynglŷn ag effaith rheoleiddio ar fusnesau.

Bydd yr aelodau newydd yn dod ag arbenigedd a phrofiad gwerthfawr i’r Pwyllgor ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r Llywodraeth i sicrhau bod y dystiolaeth sy’n sail i lunio polisïau yn gadarn.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol, Anthony Browne:

Mae’n wych cael amrywiaeth mor gryf o aelodau newydd yn ymuno â’r RPC, wrth i ni baratoi i adael yr UE. Dyw gwaith yr RPC wrth helpu i sicrhau safonau uchel o ran llunio polisïau erioed wedi bod yn bwysicach.

Yr aelodau newydd eraill yw:

Laura Cox

Ar hyn o bryd mae Laura Cox yn bartner yn PriceWaterhouseCoopers ac yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith (Cymru a Lloegr) a Chymdeithas Bar America.

Stephen Gibson

Mae gan Stephen Gibson dros 25 mlynedd o brofiad fel economegydd proffesiynol, rheoleiddiwr mewn diwydiannau rheoledig, ac fel ymgynghorydd. Mae hefyd wedi darlithio ar y pwnc ym Mhrifysgolion Birkbeck a City.

Andrew Williams-Fry

Mae Andrew Williams-Fry yn economegydd rheoleiddio a gweithiwr proffesiynol ym maes materion llywodraethol. Mae wedi gweithio mewn sectorau sy’n cael eu rheoleiddio’n economaidd, gan gynnwys ynni, dŵr, rheilffyrdd, post, hedfan a gwasanaethau ariannol, ac yn fwyaf diweddar, mae wedi arwain timau rheoleiddio a materion llywodraethol o fewn y grŵp Mastercard.

Sheila Drew-Smith OBE

Roedd Sheila Drew-Smith yn aelod o’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Hi yw Cadeirydd y Cynllun Gosod Cymeradwy Cenedlaethol, yn aelod o’r pwyllgor ar gyfer SafeAgents ac yn ymgynghorydd diogelu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhyngwladol.

Yn ogystal â’r pum aelod newydd, mae Jeremy Mayhew wedi’i ail-benodi i’r Pwyllgor. Mae wedi gwasanaethu ers 2012 ac mae hefyd yn Aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol ac Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Cyn hynny, roedd ei brofiad yn bennaf yn y diwydiant cyfryngau a darlledu, yn y BBC ac fel ymgynghorydd.

Mae’r penodiadau newydd wedi’u gwneud yn dilyn proses recriwtio agored ac yn unol â’r Cod Llywodraethu Gweinidogol ar Benodiadau Cyhoeddus.

GORFFEN

NODIADAU I OLYGYDDION

Bywgraffiad yr Athro Brian Morgan Mae Brian Morgan yn athro entrepreneuriaeth ac yn gyfarwyddwr canolfan arweinyddiaeth a menter Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ym mis Mawrth 2016 lansiodd y Ganolfan Fenter brosiect Ymchwil dwy flynedd wedi’i anelu at fapio tueddiadau economi Cymru yn y dyfodol.

Mae Brian yn olrhain ei ddiddordeb mewn economeg a mentergarwch i’w gyfnod fel myfyriwr a darlithydd yn yr LSE.

Cyn dychwelyd i’r byd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1997, Brian oedd Prif Economegydd Awdurdod Datblygu Cymru.

Mae wedi gweithio fel uwch ymgynghorydd polisi yng Nghymru (ar gyfer Awdurdod Datblygu Cymru a’r Cynulliad), ac yn Whitehall (yr adran Masnach a Diwydiant) ac mae wedi gweithio’n helaeth yn Ewrop (ar gyfer Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’r UE).

Mae’n gyd-sylfaenydd y brand wisgi byd-enwog, Penderyn, ac roedd yn gadeirydd Brecon Carreg.

Yn 2011, roedd yn Gadeirydd panel adolygu annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu effaith trethi busnes ar dwf economaidd.

Cyhoeddwyd ar 1 May 2018