Datganiad i'r wasg

Rhaid I’r Sector Preifat Arwain Yr adferiad Economaidd yng Nghymru meddai Cheryl Gillan wrth Gynulleidfa o Fyd Busnes

Wrth annerch cynulleidfa o bobl fusnes ac entrepreneuriaid ym Mae Caerdydd heddiw, dywedodd Cheryl Gillan y byddai’n rhaid i’r sector preifat…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wrth annerch cynulleidfa o bobl fusnes ac entrepreneuriaid ym Mae Caerdydd heddiw, dywedodd Cheryl Gillan y byddai’n rhaid i’r sector preifat arwain yr adferiad economaidd yng Nghymru.

A hithau’n cyflwyno’r brif araith yn Narlith Callaghan 2010 fel rhan o Wythnos Busnes y Siambr Fasnach, dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r sector cyhoeddus yn gyflogwr allweddol. Ac nid wyf am fychanu’r gwaith rhagorol a wneir gan ein gweision cyhoeddus, ond wrth ystyried bod dros chwarter poblogaeth Cymru’n cael eu cyflogi gan y wladwriaeth, rhaid i bawb gydnabod nad yw maint y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gynaliadwy.

“Dim ond drwy dyfu a datblygu ein sector preifat y gallwn adfer cydbwysedd ein heconomi, a gwyrdroi’r blynyddoedd o ddirywiad cymdeithasol ac economaidd ar yr un pryd.

“Mae gennym eisoes lwyddiannau gwirioneddol yn y sector preifat yng Nghymru. Ymwelais yn ddiweddar a’r derfynell nwy naturiol hylifedig yn South Hook ger Aberdaugleddau. Mae’r cwmni’n amcangyfrif bod y derfynell yn chwistrellu dros £1bn i’r economi leol ac wedi creu cyfleoedd sylweddol am swyddi yn Sir Benfro ac yn y gymuned gyfagos. Ni ellir gorbwysleisio ei werth.

“Mae cwmniau megis Admiral yn arwain y ffordd o ran beth gall Cymru ei gyflawni. Ac yntau’n batrwm o gyflogwr da, yn creu elw heb ei ail, ac yn meddu ar gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, yn cynnwys pencadlys newydd yng Nghaerdydd a fydd yn gartref i 3,000 o staff, dylem ddathlu’r ffaith bod Admiral yn gwmni rhestredig FTSE 100.  Ond y cwestiwn y dylem fod yn ei ofyn yw pam mai hwn yw’r _unig _gwmni rhestredig FTSE 100.

“Rhaid i ni feithrin ein busnesau cynhenid drwy greu amgylchedd sy’n eu helpu i lwyddo, yn ogystal a denu cwmniau o dramor, gan wneud Cymru’n lle gwych i wneud busnes.

“Dyna pam ein bod yn diwygio’r strwythur treth gorfforaethol, a’r nod yw cael un o’r cyfundrefnau treth mwyaf cystadleuol yn yr G20 o fewn y pedair blynedd nesaf. Dyna pam ein bod yn symleiddio rheoliadau busnes drwy sefydlu rheol ‘un i mewn ac un allan’, sy’n golygu bod rhaid diddymu un rheoliad cyn cyflwyno un newydd.

“Dyna pam ein bod yn edrych ar “gymalau machlud oes” i sicrhau bod rheoliadau’n parhau mewn grym ddim ond cyn hired ag sydd ei angen. A pham ydyn ni’n diwygio’r system bancio? Wel, er mwyn sicrhau bod busnesau bach a chanolig hyfyw yn gallu cael gafael ar y llifoedd hanfodol o gredyd sydd eu hangen arnynt i gystadlu ac i ehangu.”

Ceir fersiwn llawn o araith Mrs Gillan yn: http://www.walesoffice.gov.uk/2010/09/21/secretary-of-state-for-wales-speech-callaghan-lecture/

Cyhoeddwyd ar 21 September 2010