Stori newyddion

Partneriaeth rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus yn ennyn hyder ac yn dysgu sgiliau newydd i geiswyr gwaith

Arglwydd Bourne: “Mae’r diploma hwn yn enghraifft ragorol o’r defnydd sy’n cael ei wneud o arloesedd a chreadigedd ledled Cymru i helpu i hybu swyddi a chyflogaeth"

Moneypenny Graduates

Mae’r graddedigion CYNTAF mewn cwrs peilot arloesol yn Wrecsam yn dathlu ar ôl pasio gyda chlod. Enillodd y 12 myfyriwr eu Diploma Moneypenny mewn Rhagoriaeth Delio â Galwadau – cwrs a grëwyd gan yr arbenigwyr mewn ateb galwadau Moneypenny, mewn partneriaeth â Choleg Cambria a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Cymerodd y cyfranogwyr, cymysgedd o ddynion a menywod o’r ardal, ran mewn cwrs peilot arloesol a ddyluniwyd gan Moneypenny a Choleg Cambria i roi’r hyder a’r sgiliau i’r sawl sy’n chwilio am waith i fynd ati i wneud hynny.

Roedd y cwrs yn rhoi pwyslais ar sgiliau trosglwyddadwy gwasanaeth i gwsmeriaid ac roedd yn cynnwys 10 modiwl i gyd ac roeddent yn ymdrin â phynciau allweddol fel sgiliau ffôn a chyfathrebu, anghenion tîm a chyflawni gwahanol dasgau ar yr un pryd.

Meddai Rachel Clacher, cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Moneypenny:

Nod y cwrs oedd rhoi’r hyder a’r sgiliau i gynnig am swydd i’r sawl a hoffai weithio i Moneypenny – neu unrhyw gwmni mewn gwirionedd.

Gwyddom drwy brofiad fod llawer o bobl wych sy’n awyddus i weithio ond sydd yn meddwl ddwywaith am nad oes ganddynt yr hyder neu brofiad gwaith diweddar i wneud hynny.

Efallai eu bod yn rhiant sy’n awyddus i fynd yn ôl i weithio ar ôl cyfnod yn magu teulu, neu rywun sy’n ystyried newid gyrfa. Beth bynnag fo’r rheswm, roeddem eisiau creu cwrs ymarferol a diddorol a fyddai’n helpu unigolion i gyflawni eu potensial.

Mae Moneypenny wedi gwarantu y bydd pawb sydd wedi cwblhau’r diploma yn cael cyfweliad ganddynt.

Meddai Rachel:

Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant ysgubol y cwrs peilot ac rydym yn awr yn edrych ymlaen at weithio â Choleg Cambria a’r DWP i gynnig y diploma i fwy o bobl.

Roedd yr adborth a gawsom gan y myfyrwyr yn gadarnhaol dros ben, ac roedd yn braf iawn eu clywed yn dweud faint roeddent wedi’i ddysgu a sut y mae eu hyder wedi cael hwb o ganlyniad i’r cwrs.

Rydym yn falch iawn o bopeth maent wedi’i gyflawni.

Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne:

Mae’r diploma hwn yn enghraifft ragorol o’r defnydd sy’n cael ei wneud o arloesedd a chreadigedd ledled Cymru i helpu i hybu swyddi a chyflogaeth.

Trwy ddysgu sgiliau trosglwyddadwy i’r myfyrwyr hyn y gellir eu defnyddio mewn ystod eang o sectorau, mae Moneypenny yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus yng Nghymru.

Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt am y dyfodol a gobeithiaf fod y cwrs hwn wedi rhoi iddynt yr hyder sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Meddai Lesley Rasmussen, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygiad Rheolaeth yng Ngholeg Cambria:

Rydym yn ymfalchïo yng nghyflawniad a chynnydd pawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r rhaglen bartneriaeth hon.

Mae’r adborth yn arwydd o’r buddiannau enfawr a all ddod yn sgil gweithio’n arloesol mewn partneriaeth ac mae Coleg Cambria wrth ei fodd o gael bod yn rhan o gynllun mor flaengar sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i sgiliau, cyfleoedd a hyder y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs.

Hoffem ddymuno pob llwyddiant i’r holl gyfranogwyr yn eu gyrfa ac rydym yn siŵr y bydd yr adborth ardderchog a gafwyd yn sicrhau y bydd y bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth.

Meddai John Bisby, Rheolwr Ardal y DWP, Gogledd a Chanolbarth Cymru:

Mae’r cwrs hwn yn amlygu potensial pobl gyda phawb yn graddio ar ddiwedd y cwrs.

Mae hyn yn dipyn o gamp o gofio bod cyfran uchel ohonynt yn arfer bod yn ddi-waith. Yn awr mae ganddynt hyder yn eu galluoedd eu hunain ac maent yn debygol o symud yn gyflym i gyflogaeth lawn.

Llongyfarchiadau i bawb, gan gynnwys y cydweithredu arloesol rhwng Moneypenny, y DWP a Choleg Cambria.

Cyhoeddwyd ar 29 July 2015