Stori newyddion

Y Prif Weinidog: Diwydiant bwyd a diod Cymru’n well ei fyd mewn UE diwygiedig

Bydd dros 40,000 o swyddi yn niwydiant bwyd a diod y DU yn fwy diogel o fewn Undeb Ewropeaidd diwygiedig, meddai’r Prif Weinidog heddiw mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Downing Street.

  • Mae’r cwmnïau bwyd blaenllaw o Gymru Halen Môn a’r cyflenwyr cig Dunbia wedi rhybuddio y gallai pleidlais i adael yr UE olygu ‘rhwystrau cynyddol i fasnach’ ynghyd â ‘ffactorau anhysbys sylweddol’.
  • Mae’r diwydiannau ffermio a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru yn cyflogi 81,000 o bobl. Yn 2014 allforiodd y diwydiannau hyn £270m o gynnyrch i’r EU yn 2014 – 91 y cant o gyfanswm holl allforion bwyd a diod Cymru
  • Mae allforion bwyd y DU i’r UE yn werth £11 biliwn mewn refeniw i economi’r DU ac maent yn cynnal tua 40,000 o swyddi yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod
  • Mae aelodaeth o’r UE yn rhoi mynediad dirwystr i gynhyrchwyr bwyd a diod Prydain i farchnad rydd sy’n cynnwys dros 500 miliwn o bobl.

Bydd dros 40,000 o swyddi yn niwydiant bwyd a diod y DU yn fwy diogel o fewn Undeb Ewropeaidd diwygiedig, meddai’r Prif Weinidog heddiw mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Downing Street.

Yn y digwyddiad, a oedd yn rhan o’r ymgyrch Prydain FAWR i hybu allforion o’r DU, daeth cwmnïau bwyd a diod blaenllaw o bob cwr o’r wlad, gan gynnwys y cyflenwyr Cymreig Halen Môn a chigoedd Dunbia, at ei gilydd i ddangos y gorau o’u cynnyrch.

Mae Anglesey Sea Salt Company yn cynhyrchu Halen Môn, sy’n Enw Bwyd Gwarchodedig o fewn yr UE. Mae hyn yn golygu mai dim ond halen môr sy’n dod o ran benodol o’r Fenai rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru, a gynhyrchwyd mewn ffordd benodol, y gellir ei werthu o dan yr enw hwn o fewn yr UE. Gan gyflogi 22 o bobl, mae allforion yn cyfrif am dros draean o’i fusnes, gyda bron hanner yr allforion hyn yn mynd i’r UE.

Mae Dunbia yn cyflenwi cig ledled y DU a’r UE, gan gyflogi 4,000 o bobl ar hyd a lled y wlad. Daw tua £20m o’u busnes trwy allforio i’r UE, gyda Chig Oen Cymreig yn cyfrif am tua chwarter o’r farchnad hon. Mae’r Cig Oen Cymreig sy’n cael ei allforio hefyd yn enw bwyd gwarchodedig o fewn yr UE.

Yn genedlaethol, mae diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod y DU yn cynnal 440,000 o swyddi a chynhyrchodd £11 biliwn mewn allforion i’r UE i economi’r DU y llynedd – a rhybuddiodd y Prif Weinidog y gallai hyn i gyd gael ei fygwth pe bai’r DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin.

Pe byddem yn gadel yr UE, byddai allforwyr yn wynebu tariffau andwyol dros ben wrth werthu eu nwyddau i Ewrop — hyd at 70% ar gyfer cynnyrch cig eidion, er enghraifft – a fyddai’n costio tua £240 miliwn y flwyddyn i gynhyrchwyr. Gallai tariffau’r UE ar gaws gostio £153m y flwyddyn, gallai allforion grawnfwyd wynebu bil o £40m a gallai cynnyrch cig oen wynebu tariffau mor uchel â 42%.

Hefyd, byddai colli statws daearyddol gwarchodedig Ewrop yn ergyd arall i’r diwydiant. Mae 73 o fwydydd a diodydd unigryw yn elwa ar statws daearyddol gwarchodedig Ewrop. Mae’r statws gwarchodedig yn helpu i ddiogelu rhai o gynhyrchion mwyaf poblogaidd ac enwog Prydain rhag efelychwyr – o gaws wedi’i gynhyrchu ar Ynysoedd Erch, riwbob o Swydd Efrog, i’r Cornish Pasty byd enwog ac maent yn helpu i gynhyrchu refeniw gwerth £900 miliwn.

Meddai’r Prif Weinidog David Cameron:

Heddiw roeddwn yn falch o groesawu rhai o’r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau o bob cwr o Brydain. Mae eu cynnyrch yn boblogaidd nid yn unig yma ond ar hyd a lled Ewrop ac mae llawer ohonynt yn masnachu ar raddfa sylweddol â’r cyfandir. Ond byddai gadael yr UE yn eu hamddifadu o bob chwarae teg ac o’r mynediad rhydd sydd ganddynt at y farchnad ar hyn o bryd.

Wrth i ni nesáu at 23 Mehefin a’r refferendwm holl bwysig hwn, rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei gael fel gwlad trwy aros mewn UE diwygiedig a beth fyddai costau camu i’r tywyllwch a dewis mentro ar ein pen ein hunain. Gwyddom y byddai teuluoedd Prydain yn dlotach pe byddem yn gadael – byddent £4,300 y flwyddyn ar eu colled.

Ac mae’r gweithgynhyrchwyr bwyd a diod gwych o Brydain rwyf wedi eu cyfarfod heddiw’n bendant nad ydynt am fentro eu busnesau a bywoliaeth eu cyflogeion ar dafliad dis, a dyna’n union beth fyddai gadael yr UE yn ei olygu.

Meddai Alison Lea-Wilson Cyfarwyddwr Halen Môn/Anglesey Sea Salt:

Mae aros yn y DU yn golygu parhad ein busnes Ewropeaidd presennol – mae 34% o’r hyn rydym yn ei gynhyrchu’n mynd dramor, gyda 46% ohono’n fasnach â’r UE; mae’n golygu y byddai ein statws Enw Tarddiad Gwarchodedig yn parhau, a byddai’n golygu cyfleoedd i ni fel busnes yn y dyfodol ar delerau rhydd a chyfartal heb dariffau artiffisial o uchel neu hyd yn oed waharddiadau llwyr ar allforion.

Y risgiau i’n busnes ni trwy adael yr UE fyddai rhwystrau cynyddol i fasnachu; diwedd ar grantiau’r UE i Gymru gyda’i chynnyrch domestig gros (GDP) isel a’i hamddifadedd lluosog, a’r bygythiadau a fyddai’n dod yn sgil hynny i’n hamgylchedd a’r ffordd o fyw a fyddai’n eu tro’n effeithio ar y ddelwedd o Gymru fel gwlad ‘werdd a glân’, sy’n hanfodol i fwyd a thwristiaeth.

Y gwir yw nad ydym mewn gwirionedd yn gwybod beth fyddai effaith gadael ac mae’n ddigon anodd fel y mae i redeg busnes heb daflu mwy o ffactorau anhysbys i’r gymysgedd. Rydym yn cyflogi 22 o staff mewn ardal wledig, ac rydym yn cyfrannu £100,000oedd i’r economi leol, ac rydym yn gweithio’n galed mewn prosiectau cymunedol gyda llawer ohonynt wedi elwa ar grantiau’r UE; pwy ŵyr faint o’r rhain fyddai mewn perygl.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia Paul Edwards:

Mae Dunbia yn falch iawn o gael arddangos cig oen Cymreig y tymor newydd yn Downing Street.

Byddai gadael yr UE yn ein gadael ar drugaredd ffactorau anhysbys sylweddol; polisi masnach y dyfodol, polisi amaeth, a pholisi rheoleiddio. Mae ein prif gynhyrchwyr, yn enwedig ffermwyr defaid yng Nghymru, yn ddibynnol iawn ar y cymorth a gânt gan yr UE i barhau mewn busnes ac mae’r ansicrwydd ynglŷn â’r incwm hwnnw ar ôl gadael yr UE yn achos pryder.

Mae gan y DU sector bwyd-amaeth sy’n werth bron i £40bn, ac mae allforion yn hanfodol, ac fel aelod o’r UE nid oes tariffau na rheolaethau ffiniau ar ein cynnyrch. O’r holl gig oen Cymreig sy’n cael ei allforio, mae 90% yn mynd i’r UE ac fe awgrymwyd y byddai costau masnachu uwch sy’n cyfateb i dariffau ar allforion a mewnforion a fyddai’n o leiaf 5% yn cael eu cyflwyno pe baem yn gadael y farchnad rydd honno.

Ar ôl pwyso a mesur, gyda’r ansicrwydd a fyddai’n codi, a gyda’r diffyg gwybodaeth sydd ar gael am bolisi masnach ar ôl gadael, byddai’n well gennym ni fel cwmni aros o fewn Ewrop ddiwygiedig.

Bu’r cogydd teledu Tom Kerridge hefyd yn paratoi pryd o fwyd yn y digwyddiad gan ddefnyddio’r cynnyrch a oedd yn cael ei arddangos i ddangos yr hyn sydd gan fwyd a diod cartref i’w cynnig i’r byd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru’n ffynnu – gan roi blas i bobl o bob rhan o’r byd y cynnyrch rhagorol sydd gennym i’w gynnig, o Halen Môn i Ham Caerfyrddin.

Gyda dros 80,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector a chyda £270m o allforion i’r UE yn 2014, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol sefydlog i’n cynhyrchwyr bwyd a diod.

Mae gadael y DU yn fygythiad gwirioneddol i gyflawni hyn a gallai arwain at flynyddoedd o negodi ar delerau masnachu newydd. Mae ein sector bwyd a diod yn gryfach, yn fwy diogel ac yn well ei fyd o fewn UE diwygiedig.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae cynhyrchu halen yn y DU yn werth £35m i’r economi bob blwyddyn, gan gyflogi 500 o bobl, gyda dros 12m yn cael ei allforio i’r UE. Pe byddem yn gadael yr UE ac yn gorfod dilyn rheolau’r WTO gallai’r allforion hyn wynebu tariff o £170,000 y flwyddyn, a fyddai’n golygu bod cynhyrchwyr y DU yn llai cystadleuol.
  • Mae cig oen Cymreig ac allforion defaid i’r DU yn werth tua £100m, gyda thua thraean yr allforion cig oed a defaid i’r UE. Pe byddem yn gadael, byddai’r sector wŷn a defaid yn wynebu tariffau o £90m ar allforion i’r UE
  • Mae allforion o Gymru i’r UE yn elwa am nad ydynt yn wynebu tariffau, ac mae cynnyrch Cymreig unigryw wedi cael statws arbennig – sy’n golygu na ellir eu hatgynhyrchu yn unman arall, yn y byd.
  • Roedd gan y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru drosiant o £4.3 biliwn yn 2012. Yn 2014 roedd allforion yn £302 miliwn, ac Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd oedd y pum prif gyrchfan.
Cyhoeddwyd ar 11 May 2016