Stori newyddion

Postio dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau

Bydd angen anfon pob post i'n swyddfa yng Nghaerdydd o 4 Mawrth 2024.

O 4 Mawrth 2024, bydd angen i bob cwmni sydd am ffeilio dogfennau papur eu postio i’n swyddfa yng Nghaerdydd:

Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

Ni fyddwn yn derbyn danfoniad post na llaw yn ein swyddfa ym Melfast o 4 Mawrth 2024. Mae cwmnïau sydd wedi cofrestru yn Yr Alban eisoes yn postio eu dogfennau i’n swyddfa yng Nghaerdydd ers mis Medi 2023.

Gall y rhan fwyaf o gwmnïau ffeilio ar-lein yn hytrach na phostio dogfennau papur atom.

Trwy gofrestru ar-lein, byddwch yn:

  • arbed amser ac arian i’ch cwmni
  • cael cadarnhad ein bod wedi derbyn eich cais
  • osgoi gwrthod a bod yn llai tebygol o gael cosbau ffeilio hwyr
  • cael mynediad at wasanaethau ar-lein ychwanegol

Byddwn yn parhau i dderbyn post yn ein swyddfa ym Melfast tan 1 Mawrth 2024. Os byddwch yn postio dogfennau i swyddfa Belfast ar ôl 1 Mawrth 2024, bydd eich dogfennau’n cael eu hailgyfeirio a byddant yn cymryd mwy o amser i’n cyrraedd.

Dylai unrhyw un sy’n ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau ddeall eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau cyfreithiol o fod yn gyfarwyddwr cwmni, gan gynnwys y cyfrifoldeb i ffeilio dogfennau ar amser.

Cyhoeddwyd ar 27 November 2023