Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog yn cyflwyno gwobr i wirfoddolwr o Gymru mewn Derbyniad i ddathlu Eid yn Rhif 10

Mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod Moawia Bin-Sufyan, o Dde Morgannwg, am hybu deialog rhyng-ffydd a chydlyniad cymunedol, gyda gwobr ‘Points of Light’ mewn derbyniad heddiw yn Stryd Downing.

Mae Moawia wedi bod yn brif ysgogydd ar gyfer deialog rhyng-ffydd a chydlyniad cymunedol yn Ne Cymru am fwy nag 20 mlynedd. Ef yw sylfaenydd a chadeirydd y ‘Cyngor ar Berthnasoedd Islamaidd Cymru, sy’n hybu gwell dealltwriaeth o Islam trwy sgyrsiau gydag ysgolion lleol, busnesau ac elusennau. Mewn partneriaeth â ‘Chymdeithas Lles Mwslemiaid’ ym Mro Morgannwg, mae Moawia wedi cefnogi a mentora oedolion ifanc yn y gymuned ar faterion fel herio eithafiaeth, priodasau gorfod a thrais er anrhydedd. Mae wedi codi dros £50,000 tuag at ei waith allgymorth. Mae’n gweithio’n rhan amser fel ynad er mwyn gwirfoddoli ar gyfer 14 o fyrddau elusennol yng Nghymru ac mae’n gweithredu fel llysgennad i gymunedau o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Cyflwynwyd y wobr hon i Moawia gan y Prif Weinidog, Theresa May mewn Derbyniad yn dathlu Eid yn Rhif 10. Roedd ei AS lleol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns hefyd yn bresennol.

Moawia yw un o’r unigolion diweddaraf i gael y wobr Points of Light, sy’n cydnabod gwirfoddolwyr arbennig sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned ac yn ysbrydoli eraill. Bob diwrnod, caiff rhywun o rywle ei ddewis i gael y wobr i ddathlu ei lwyddiannau arbennig.

Mewn llythyr personol at Moawia, dywedodd y Prif Weinidog, Theresa May:

Mae eich ymroddiad i wella deialog rhyng-ffydd a chynnig cefnogaeth i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol i’w ganmol yn fawr. Mae eich gwaith gwirfoddol cynhwysol a’ch gwaith allgymorth yn helpu cymunedau Mwslimaidd drwy Gymru ac yn hybu gwell dealltwriaeth o Islam mewn ysgolion lleol, busnesau ac elusennau.

Meddai Alun Cairns, AS dros Fro Morgannwg ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n falch iawn o glywed bod Moawia wedi cael Gwobr Points of Light am ei waith gwirfoddol arbennig. Rwy’n adnabod Moawia ers blynyddoedd ac rwyf wedi gweld drosof fy hun ei waith rhagorol drwy ein cymuned.

Mae Moawia hefyd yn Llysgennad y Fro ac mae’n gweithio’n ddiflino i wella dealltwriaeth a chyfathrebu rhwng gwahanol grwpiau ffydd yn ein cymunedau. Mae hefyd yn gwirfoddoli fel Hebryngwr Carchar ac fel Hyfforddwr Herio Eithafiaeth gan weithio i atal pobl ifanc rhag mynd yn eithafwyr.

Mae Moawia yn arweinydd ifanc sy’n ysbrydoli ac rwy’n falch bod y Fro’n elwa cymaint ar ei waith. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddo am bopeth y mae’n ei wneud.

Meddai Moawia:

Mae’n fraint ac yn deimlad gwylaidd cael Gwobr Points of Light y Prif Weinidog fel cydnabyddiaeth o fy ngwaith gwirfoddol. Fydda i byth yn chwennych canmoliaeth na gwobrau wrth wneud fy holl waith cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol ond mae’n fraint wirioneddol pan fydda i’n cael fy anrhydeddu. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am gael y cyfle i helpu i wneud gwahaniaeth bach mewn cymdeithas ac i fywydau pobl. Gobeithio y bydd y wobr hon yn symbylu pobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn gwaith elusennol a gwirfoddol drwy Gymru. Hoffwn ddiolch i fy nheulu, ffrindiau a mentoriaid am yr holl gefnogaeth y maen nhw’n ei rhoi i mi.

Moawia yw’r 912fed unigolyn i gael gwobr Points of Light, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r rhaglen Points of Light hynod o lwyddiannus yn UDA. Dyfarnwyd 6,000 o wobrau Points of Light yn UDA, ac mae cyn Lywyddion wedi rhoi cefnogaeth gyhoeddus i’r bartneriaeth â Points of Light y DU. Mae dull trawsbleidiol tebyg yn perthyn i raglen y DU ac mae AS o wahanol bleidiau’n aml yn cyflwyno’r wobr Points of Light i’w hetholwyr.

P’un ai a yw’n feddyg sy’n adfer henebion lleol yn ei amser sbâr, tad yn dysgu sgiliau bywyd i bobl ifanc, neu gerddor lleol yn rhoi llais i bobl unig, mae’r wobr Points of Light yn anrhydeddu enghreifftiau nodedig o wirfoddoli drwy’r DU.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae gwobrau Points of Light yn cydnabod gwirfoddolwyr unigol arbennig, pobl sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned ac yn ysbrydoli eraill.
  2. Mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi’r enillwyr yn ddyddiol, er mwyn dathlu, annog a hybu gwirfoddoli a’r gwerth y mae’n ei roi i’r wlad.
  3. Os ydych yn gwybod am rywun a allai fod yn deilwng o wobr Point of Light yna dylid ysgrifennu at y Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing.
  4. Gwefan: www.pointsoflight.gov.uk
Cyhoeddwyd ar 19 June 2018