Stori newyddion

Teithwyr yn Ne Orllewin Cymru i ffurfio dyfodol gwasanaeth Rheilffordd y Great Western

Cyfle i fynegi eich barn yn nigwyddiadau Llywodraeth y DU yng Nghaerfyrddin ac Abertawe

IEP station

Mae teithwyr yn Ne Orllewin Cymru ar y ffordd i gael siwrneiau gwell ar y rheilffordd, wrth i Lywodraeth y DU wahodd sylwadau gan bobl yng Nghaerfyrddin ac Abertawe ar sut wasanaeth yr hoffent ei gael gan reilffordd y Great Western yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar ddyfodol Rhyddfraint y Great Western ac mae’n gwahodd barn teithwyr, busnesau a chynghorau lleol mewn dau ddigwyddiad ymgynghori ar 13 Chwefror 2018.

  • Yr Atriwm, Ymddiriedolaeth Datblygu Gorseinon, Gorseinon, Abertawe - 2pm – 4pm
  • Ystafell Teifi, Canolfan Halliwell, Campws Caerfyrddin Prifysgol y Drindod Dewi Sant - 6pm – 8pm

Mae biliynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar uwchraddio gwasanaethau i deithwyr ar y Great Western, sy’n cludo 100 miliwn o deithwyr y flwyddyn, ac sy’n ymestyn o Lundain i Ddoc Penfro ac o Portsmouth i Gaerwrangon.

Mae teithwyr eisoes yn profi gwelliannau i’w siwrneiau ledled de Cymru ar drenau deufodd IEP sy’n cynnwys mwy o seddi ac yn sicrhau siwrnai fwy cyfforddus. Bydd newidiadau i’r amserlen yn golygu teithiau cyflymach a mwy mynych ar lawer o linellau erbyn 2019.

Er mwyn sicrhau bod rhyddfraint nesaf Rheilffordd y Great Western yn cyflawni’r hyn mae pobl am ei weld, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw ar bobl i fynd draw i ddigwyddiadau Llywodraeth y DU yng Nghaerfyrddin ac Abertawe i ddweud sut y gellid cynllunio gwasanaethau’r dyfodol yn well i ateb gofynion teithwyr yn ne orllewin Cymru.

Meddai Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns:

Mae ein rheilffyrdd yn darparu cysylltiadau hanfodol i gymunedau gwledig, busnesau ac ymwelwyr ym mhob rhan o dde Cymru. Mae felly’n gwneud synnwyr y dylai’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn bob dydd gael llais yn yr ymdrechion i wella’r gwasanaethau.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn trafod sut y gallwn roi mwy o hyblygrwydd i’r bobl broffesiynol sy’n rhedeg ein rheilffyrdd i arloesi ac i ddod o hyd i’r atebion gorau ar gyfer teithwyr. Rydym yn awyddus i glywed eich barn chi ar sut yr hoffech weld hynny’n gweithio’n ymarferol a’r hyn y gellir ei wneud i wella’r gwasanaeth.

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu ymestyn y rhyddfraint ar gyfer gweithredwyr presennol Rheilffordd y Great Western (GWR) tan fis Mawrth 2020 i wneud yn siŵr bod teithwyr yn cael y gwasanaeth gorau posibl tra bydd y gwaith uwchraddio presennol i’r llinellau’n cael ei wneud.

A byddwn hefyd yn ymdrechu i gytuno ar delerau â hwy i barhau i weithredu tan 2022, a fydd yn rhoi cyfle i’r gwelliannau i’r gwasanaethau gael i setlo’n iawn cyn cynnal cystadleuaeth ar gyfer rhyddfraint tymor hir newydd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn y rhaglen fwyaf i foderneiddio rheilffyrdd mewn mwy na chanrif. Gan weithio â’r GWR, rydym yn cyflwyno’r dechnoleg ddiweddaraf yn y byd rheilffyrdd i rai o reilffyrdd hynaf y byd, gan roi’r teithwyr yn gyntaf fel y byddant yn elwa ar raglen drawsnewid a fydd yn eu huwchraddio mor gyflym â phosibl.

Bydd buddiannau’r gwelliannau hyn i’w gweld ym mhob rhan o ardal y rhyddfraint. Ond wrth i’r rhyddfraint barhau i dyfu yn y 2020au, rydym am sicrhau bod pob rheilffordd, gorsaf a theithiwr yn parhau’n ganolog i strategaeth y gweithredwyr trenau. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i deithwyr sut reilffordd yr hoffent ei gweld yn y 2020au a thu hwnt a sut y gall ddiwallu eu hanghenion hwy orau.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 21 Chwefror.

Cyhoeddwyd ar 6 February 2018