Stori newyddion

Gwahoddiad i deithwyr ddweud eu dweud am fasnachfraint nesaf Arfordir y Gorllewin InterCity

Alun Cairns: “Mae gwella ein rhwydwaith rheilffyrdd yn elfen allweddol o’n cynlluniau uchelgeisiol i sicrhau twf economaidd ledled y wlad”

  • bydd y fasnachfraint newydd yn parhau i wella bodlonrwydd cwsmeriaid, gwella gwasanaethau ac adeiladu ar y buddsoddi a fu yn ddiweddar
  • mae’r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar bob agwedd ar y fasnachfraint newydd i sicrhau bod teithwyr, cymunedau a busnesau yn cael y profiad gorau posib ar ein siwrneiau
  • bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2018 pan fydd contract cyfredol Arfordir y Gorllewin InterCity yn dod i ben

Mae’r llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad heddiw (10 Mai 2016) yn gofyn i deithwyr am eu barn ynghylch sut gall rheilffordd Arfordir y Gorllewin InterCity (ICWC) wella ei gwasanaeth trenau.

Bydd teithwyr, busnesau a chynghorau lleol yn cael dweud eu dweud am y gwelliannau arfaethedig ar gyfer y fasnachfraint newydd — sy’n rhedeg rhwng Llundain, Birmingham, Manceinion, Lerpwl, Glasgow, Caeredin a Chaergybi — cyn i’r gystadleuaeth am weithredwr newydd ddechrau yn hwyrach ymlaen eleni.

Bydd y gystadleuaeth yn gwahodd ceisiadau gan weithredwyr sy’n gobeithio rhedeg masnachfraint nesaf ICWC, a bydd yr ymgynghoriad yn helpu i siapio’r gwahoddiad i dendro a gaiff ei gyhoeddi yn hwyrach ymlaen yn 2016. Cyhoeddir enw’r cwmni gweithredu trenau llwyddiannus ym mis Tachwedd 2017, mewn da bryd ar gyfer dechrau’r fasnachfraint newydd ym mis Ebrill 2018.

Dywedodd Patrick McLoughlin, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

Rydym yn buddsoddi £38 biliwn - sef y swm mwyaf erioed - yn ein rheilffyrdd er mwyn sicrhau siwrnai well i’n teithwyr, ac mae’n hanfodol bwysig bod anghenion teithwyr wrth galon y fasnachfraint os ydym am adeiladu ar y buddsoddiad hwn.

Mae rheilffordd ICWC yn rhan hanfodol bwysig o’n rhwydwaith rheilffyrdd gan ei bod yn cysylltu dinasoedd pwysig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rydw i am weld gwelliannau ym modlonrwydd ein cwsmeriaid, buddsoddi ac o ran siwrneiau gwell i’n teithwyr yn ystod y fasnachfraint nesaf.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gwella ein rhwydwaith rheilffyrdd yn elfen allweddol o’n cynlluniau uchelgeisiol i sicrhau twf economaidd ledled y wlad. Bydd cysylltiadau cyflymach rhwng Gogledd Cymru a dinasoedd gogledd Lloegr yn sicrhau bod gennym gyswllt â Phwerdy’r Gogledd, gan ddenu buddsoddiadau a chreu swyddi.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i deithwyr a chymunedau ledled Cymru ddweud eu dweud am y fasnachfraint rheilffyrdd er mwyn ein helpu ni i sicrhau bod y daith yn diwallu eu hanghenion.

Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn er mwyn sicrhau bod gan Gymru wasanaeth trenau sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif felly rwyf yn annog pobl i gymryd rhan a rhannu eu barn.

Mae’r ymgynghoriad yn nodi gweledigaeth yr adran ar gyfer y fasnachfraint newydd, gan gynnwys cynlluniau i hwyluso twf economaidd, cefnogi buddsoddi ac adeiladu ar y lefel uchel o fodlonrwydd ymysg cwsmeriaid.

Mae’n gofyn am farn teithwyr ar ystod o welliannau eraill, gan gynnwys sut gall y gweithredwr nesaf wella bodlonrwydd a phrofiad y cwsmer, gan gynnwys rhoi gwybodaeth gynorthwyol pan mae problemau’n codi rhoi gwasanaeth trenau sy’n diwallu anghenion teithwyr a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu yn well gwneud y gwasanaeth trenau yn fwy hygyrch i bawb, gan gynnwys ffyrdd arloesol o wella’r system tocynnau, cost tocynnau a thalu am siwrneiau.

Rhwng dechrau Ebrill 2014 a diwedd Mawrth 2015, roedd teithwyr wedi teithio 4.3 biliwn o filltiroedd gan fynd ar dros 34 miliwn o siwrneiau ar wasanaethau masnachfraint ICWC. Mae’r fasnachfraint bresennol yn cyflogi tua 3,000 aelod o staff ac yn rhedeg tua 300 o wasanaethau bob dydd. Bydd gan y gweithredwr nesaf hefyd rôl bwysig i’w chwarae o ran cyflwyno’r prosiect High Speed Two (HS2) yn effeithiol, gyda’r gwaith adeiladu yn dechrau yn 2017.

Cynhelir y gystadleuaeth mewn camau fydd yn cychwyn yn 2016 ac yn parhau yn 2017, a bydd enillydd y fasnachfraint yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2017.

Bydd yr ymgynghoriad 12-wythnos yn dod i ben ar 2 Awst 2016.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2016