SLC yn lansio gwasanaeth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr Rhan-amser yng Nghymru
Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wedi lansio ei wasanaeth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yng Nghymru.

Gall myfyrwyr rhan-amser cymwys ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu yn ogystal â Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda’u costau byw. Gallant hefyd gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) nad oes angen ei dalu’n ôl.
Meddai Derek Ross Cyfarwyddwyr Gweithredol Gweithrediadau SLC: “Rydym yn falch iawn i gyhoeddi y gall myfyrwyr rhan-amser yng Nghymru ymgeisio am eu cyllid i fyfyrwyr. Y ffordd hawsaf yw ymgeisio ar-lein ac fel arfer, y neges yw ymgeisiwch nawr i sicrhau bod eu cyllid yn ei le cyn dechrau’r tymor. Gallwch ymgeisio hyd yn oed os nad oes gennych gadarnhad o le yn y brifysgol.”
Pum ffaith am Gyllid i Fyfyrwyr Rhan-amser
- Gallwch ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallwch hefyd gael GDLlC nad oes rhaid i chi ei ad-dalu
- Mae eich hawl i gyllid i fyfyrwyr yn seiliedig ar eich dwyster astudio – nid incwm eich cartref. Fyddai incwm eich cartref ddim ond yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a faint o GDLlC sy’n llunio’ch hawl
- Mae angen i chi ailymgeisio am gyllid ar gyfer pob blwyddyn o’ch cwrs
- Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad yn y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs neu’r mis Ebrill bedair blynedd wedi dechrau eich cwrs (hys yn oed os ydych chi’n dal i astudio), pa bynnag un ddaw gyntaf. Byddwch yn ad-dalu 9% o faint fyddwch chi’n ei ennill dros y trothwy ad-dalu, sef £26,575 y flwyddyn ar hyn o bryd.
- Mae help ychwanegol ar gael os oes gennych chi anabledd neu os oes gennych chi blant neu oedolion sy’n ddibynnol arnoch chi’n ariannol.
Am ragor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilm a dilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter @SF_Wales a Facebook.