Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i 300 a mwy o gyflogwyr am gefnogi cymuned y lluoedd arfog

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi bod 331 o sefydliadau o bob cwr o’r DU wedi cyflawni Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) Amddiffyn ar gyfer 2026, gan gydnabod eu hymrwymiad parhaus i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

Silver Awards Certificates. Copyright: Defence Relationship Management.

Mae Gwobr Arian ERS yn dathlu cyflogwyr sy’n creu amgylcheddau cefnogol ar gyfer milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, mudiad y Cadetiaid a theuluoedd milwrol. Mae’r sefydliadau hyn yn dangos nad rhywbeth symbolaidd yn unig yw’r gefnogaeth i’r diwydiant amddiffyn – mae’n rhan annatod o ddiwylliant, polisïau ac arweinyddiaeth yn y gweithle.

Mae derbynwyr y Wobr Arian yn cael eu cydnabod am fentrau fel:

  • gwyliau ychwanegol ar gyfer hyfforddiant milwyr wrth gefn a chymorth ymfyddino.
  • polisïau gweithredol ar gyfer recriwtio a chadw cyn-filwyr
  • cymorth hyblyg i deuluoedd milwrol
  • cymeradwyaeth amlwg ymhlith arweinwyr i Gyfamod y Lluoedd Arfog

Dywedodd yr Uwchfrigadydd Marc Overton (MSHQ-ACDS RFC):

“Llongyfarchiadau i’r holl sefydliadau sy’n derbyn Gwobr Arian ERS eleni. Mae’r cyflogwyr hyn yn gwneud cyfraniad gwerth chweil i’r diwydiant amddiffyn trwy gefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu a chydnabod gwerth aruthrol lluoedd wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol i’r gweithlu”.

“Fel milwr wrth gefn fy hun, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw cefnogaeth cyflogwr. Mae’r hyblygrwydd, y ddealltwriaeth a’r eiriolaeth a ddangosir gan sefydliadau ledled y DU yn helpu ein pobl i gydbwyso gyrfaoedd sifil ag ymrwymiadau i’r lluoedd, gan gryfhau ein gallu Amddiffyn a chymdeithas yn gyffredinol.”

“Yn yr amgylchedd byd-eang cynyddol ansicr sydd ohoni, mae partneriaethau cryf rhwng Amddiffyn a chyflogwyr yn bwysicach nag erioed. Mae’r ymrwymiad a ddangosir gan ddeiliaid y Wobr Arian eleni yn helpu i sicrhau bod y DU yn cynnal lluoedd arfog gwydn, galluog a hyblyg sy’n gallu addasu i’r dyfodol.”

Ymunwch â’r sgwrs

Mae deiliaid y wobr a sefydliadau partner yn cael eu hannog i rannu eu straeon a dathlu eu cyflawniad drwy gydol y cyfnod cyhoeddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cofiwch ddilyn a thagio DRM ar:

  • X (Twitter gynt): @DRM_UK
  • LinkedIn: Defence Relationship Management
  • Instagram: @UK.DRM
  • YouTube: Defence Relationship Management

Mwy am Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn: https://www.gov.uk/government/publications/defence-employer-recognition-scheme/defence-employer-recognition-scheme

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mehefin 2026 Show all updates
  1. Added: Welsh translation.

  2. First published.