Dros 2000 o fusnesau yng Nghymru yn cael hwb i'w band eang
Alun Cairns: "Os ydyn ni am weld busnesau yng Nghymru yn arloesi ac yn ffynnu, mae angen i ni eu helpu i sicrhau eu bod yn gallu cael y dechnoleg gyfathrebu orau"

Yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, mae dros 40,000 o fusnesau bach a chanolig ledled y DU, gyda dros 2,000 yng Nghymru, wedi elwa o gynllun talebau Cysylltiad Band Eang y Llywodraeth. Dros y misoedd diwethaf gwelwyd cynnydd aruthrol yn y galw am y cynllun sy’n helpu busnesau bach a chanolig i gysylltu â band eang cyflym iawn. Fodd bynnag, nid oes llawer o amser ar ôl i fusnesau allu manteisio arno.
Rhyddhaodd y Llywodraeth £40m yn 2015/16 ar gyfer y cynllun, a chaiff y talebau eu dosbarthu ar sail “cyntaf i’r felin”. Nid yw’r arian wedi’i glustnodi’n benodol ar gyfer dinasoedd unigol, ac wrth i dros 1000 o geisiadau ddod i law bob wythnos, mae’r Llywodraeth yn annog pob busnes cymwys i wneud cais cyn i’r arian ddod i ben.
Mae’r cynllun yn galluogi busnesau i wneud cais am grantiau o hyd at £3,000 yr un tuag at y gost o osod band eang gwell a chynt. Hyd yma, mae dros 40,000 o fusnesau yn y 50 o ddinasoedd ledled y DU sy’n rhan o’r cynllun wedi derbyn grantiau. Mae’r cynllun wedi helpu amrywiaeth eang o fusnesau hyd yma, yn cynnwys penseiri, gwerthwyr tai, mecanics, cydlynwyr digwyddiadau, caffis, dylunwyr graffeg ac arlwywyr.
Dywedodd Ed Vaizey, Y Gweinidog dros yr Economi Ddigidol:
Mae ein cynnig i fusnesau bach wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac yn boblogaidd tu hwnt. Mae dros 40,000 o fusnesau yn y DU eisoes wedi manteisio ar ein cynnig sy’n ceisio dynyddu cyflymder band eang a chynyddu eu helw.
Mae angen i fusnesau gymryd camau ar unwaith i sicrhau nad ydyn nhw’n colli’r cyfle euraid hwn ac rwy’n annog pob busnes cymwys i wneud cais nawr cyn y bydd yn rhy hwyr.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Os ydyn ni am weld busnesau yng Nghymru yn arloesi ac yn ffynnu, yna mae angen i ni eu helpu i sicrhau eu bod yn gallu cael y dechnoleg gyfathrebu orau.
Mae band eang cyflym iawn eisoes wedi galluogi cannoedd o fusnesau yng Nghymru i wella eu dulliau cyfathrebu ac mae hynny’n eu helpu i dyfu a chystadlu yn y farchnad fyd eang.
Rwy’n gobeithio y bydd mwy o fusnesau yng Nghymru yn cofrestru ar gyfer y cynllun hwn gan Lywodraeth y DU ac yn mwynhau’r manteision economaidd a ddaw yn sgil band eang cyflym iawn.
Mae’r grant, ar ffurf talebau, yn rhan o ymdrech y Llywodraeth i weddnewid tirlun digidol y DU gan helpu dinasoedd i greu a denu swyddi a buddsoddiad newydd, a gwneud y DU y lle gorau yn y byd i wneud busnes.
Ar 25 Awst 2015, dyma niferoedd y talebau a roddwyd:
- Yr Alban - 2087
- Cymru - 2042
- Gogledd Iwerddon - 1867
- Gogledd Orllewin Lloegr - 6344
- Gogledd Ddwyrain Lloegr - 1291
- Swydd Efrog a Humber - 5734
- Canoldir Lloegr - 5179
- Llundain - 11664
- Dwyrain Lloegr - 1407
- De Ddwyrain Lloegr - 1592
- De Orllewin Lloegr - 1734
Dyma rai o’r manteision a brofwyd gan fusnesau bach ar ôl cael cysylltiad cyflymach:
- Tyfu a chael mynediad at farchnadoedd newydd oherwydd eu bod yn gallu cyfathrebu’n well â chwsmeriaid a chyflenwyr
- Gwell diogelwch oherwydd eu bod yn gallu creu copïau wrth gefn o ddata yn gyflym ac yn ddiogel
- Mwy cynhyrchiol a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid oherwydd eu bod yn gallu llwytho i fyny a llwytho i lawr yn gynt
Gall busnesau ddarganfod a ydynt yn gymwys a chael rhagor o fanylion am y cynllun talebau cysylltiad band eang yma.