Stori newyddion

"Mae ein dechrau o’r newydd yn golygu y gallwn wneud pedair cornel y Deyrnas Unedig yn gryfach ac yn fwy llewyrchus nag erioed o'r blaen"

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a’r Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma yn amlinellu’r cyfleoedd newydd cyffrous i Gymru o Fil Marchnad Fewnol y DU.

Wrth i Fil Marchnad Fewnol y DU wneud ei ffordd drwy’r Senedd, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a’r Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma yn rhannu eu barn ynglŷn â sut y bydd Cymru’n elwa o bwerau sy’n dychwelyd o Frwsel ar ôl Brexit a pharhad masnach ddi-dor gyda gweddill y DU mewn erthygl ddiweddar.

Mewn ychydig fisoedd yn unig, bydd pwerau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn cael eu dychwelyd i’r Deyrnas Unedig. Mae cymryd rheolaeth yn ôl o Frwsel yn gyfle nad ydym wedi’i weld ers sawl cenhedlaeth.

Bellach bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ym Mae Caerdydd, Holyrood a Stormont yn gwneud penderfyniadau ar feysydd pwysig fel ansawdd aer, effeithlonrwydd ynni adeiladau ac elfennau o gyfraith cyflogaeth heb gael gwared ar unrhyw un o’u pwerau cyfredol.

Mae’n newid sylweddol ac yn un sy’n rhoi cyfle ar unwaith i weithio tuag at un o’n nodau allweddol - sef i lefelu holl genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.

Mae hyn hefyd yn golygu y bydd pwerau digynsail yn llifo i’r gweinyddiaethau datganoledig, gan roi mwy o rym i Aelodau Seneddol nag erioed o’r blaen.

Mae’n golygu y gallwn barhau â’r adferiad o Covid-19, gan weithio gyda llywodraethau datganoledig i fuddsoddi arian mewn busnes a chymunedau ledled Cymru ac ym mhobman arall sydd ei angen ledled y DU.

Mae ein dechrau o’r newydd yn golygu y gallwn wneud pedair cornel y Deyrnas Unedig yn gryfach ac yn fwy llewyrchus nag erioed o’r blaen.

Dyna pam mae deddfau newydd yn cael eu cyflwyno i Senedd y DU heddiw i sicrhau y gall cwmnïau fasnachu yn ddirwystr ledled y DU, gan amddiffyn swyddi a bywoliaethau wrth gynnal ein safonau ar gyfer gweithwyr, bwyd a’r amgylchedd sy’n flaenllaw ar lefel fyd-eang.

Mae masnachu wedi digwydd yn ddi-dor ledled y DU ers canrifoedd ac mae mesurau heddiw yn golygu y gallwn, ar y 31ain o Ragfyr, barhau i gynnal busnes o fewn ein ffiniau ein hunain heb roi beichiau ychwanegol ar gwmnïau.

Mae hyn yn gwbl hanfodol i economi Cymru. Partner masnachu mwyaf y wlad yw gweddill y DU, gyda thua 75 y cant o’i hallforion yn mynd at ei ffrindiau a’i chymdogion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Am gannoedd o flynyddoedd, mae hyn wedi bod wrth wraidd ein hundeb economaidd hynod lwyddiannus, gan hybu busnes a chreu swyddi.

P’un a oedd yn adeiladu’r diwydiant trwm a welodd y cymoedd yng nghanol y chwyldro diwydiannol neu y diwydiannau newydd sy’n dod i’r amlwg fel FinTech, lle mae cwmnïau Cymru ar flaen y gad – mae Cymru wedi gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddarperir gan farchnad sydd wastad yn tyfu o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae ei ffyniant wedi dibynnu ar fusnesau yn gallu gwerthu eu nwyddau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban heb orfod poeni am wahanol reoliadau o fewn meysydd cynhyrchu, gweithgynhyrchu a labelu bwyd.

Yn wir, rydym mor gyfarwydd â’n marchnad fewnol a’r manteision a ddaw yn ei sgil, rydym yn tueddu i beidio â rhoi ail feddwl iddi.

Heb y camau yr ydym yn eu cymryd heddiw i amddiffyn busnes, bydd y rheolau cyffredin sy’n caniatáu llif masnach rydd yn diflannu ym mis Rhagfyr gan greu rheoliadau biwrocrataidd niweidiol ledled y DU. Byddai hyn yn creu rhwystrau i fasnachu ac yn rhoi swyddi mewn risg.

Mae’n golygu y gallai ffermwr yng Nghymru o bosib wynebu problemau wrth werthu cig oen yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon oherwydd gwahanol reolau ynghylch safonau lles anifeiliaid, neu gallai cynhyrchwyr Wisgi Cymreig golli mynediad at gyflenwad gan ffermwyr haidd mewn rhannau eraill o’r DU.

Gallai hyd yn oed olygu y gallai busnesau ar un pen o’r dref wynebu gwahanol reolau a safonau i’r pen arall, mewn ardaloedd fel Saltney yn Sir y Fflint sy’n croesi rhwng Cymru a Lloegr, gan roi mantais annheg i un ohonynt.

Bydd y Bil rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn newid hynny.

Bydd yn creu cyfleoedd newydd cyffrous i weithio gyda gweinidogion yng Nghymru, yn ogystal â phartneriaid eraill, i gryfhau Cymru a’r Deyrnas Unedig gyfan. Nid yw’n dileu unrhyw un o bwerau presennol y Senedd felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill yn achos datganoli.

Bydd y Bil hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU wario arian ledled y wlad gyfan, gan gynnwys mewn meysydd lle mae Brwsel yn cyfarwyddo cyllidebau’r UE ar hyn o bryd.

O ganlyniad i hyn, byddwn yn gallu buddsoddi mewn cynlluniau seilwaith, datblygu economaidd, diwylliant, chwaraeon a rhaglenni cyfnewid addysg ryngwladol ledled Cymru.

Ochr yn ochr â chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ei hun, bydd y pwerau hyn yn cynyddu’r cyfle ar gyfer buddsoddi mawr ei angen mewn cymunedau o Aberdâr i Aberconwy, a byddant yn cyflymu’r broses o roi’r buddsoddiad hwnnw ar waith.

Gofynnwyd am farn diwydiannau, academyddion ac elusennau ar y cynigion ac roedd y nifer fawr o fusnesau a ymatebodd yn glir mai’r cynigion hyn oedd yr ateb gorau.

Byddwn yn osgoi rhwystrau masnach newydd, yn amddiffyn buddion ledled y DU i ddefnyddwyr ac yn rhoi sicrwydd i fusnes wrth i’r cyfnod Pontio ddod i ben.

Trwy gefnogi busnes a gwarchod marchnad fewnol y Deyrnas Unedig, bydd yr Undeb yn gryfach nag erioed o’r blaen ac yn masnachu gyda’n gilydd ac ar draws y byd fel yr ydym wedi’i wneud ers canrifoedd.

Cyhoeddwyd ar 29 September 2020