Datganiad i'r wasg

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch rhoi Organau yn mynd rhagddo i’r broses craffu cyn deddfu

Heddiw [dydd Llun 10 Ionawr], cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Rhoi…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [dydd Llun 10 Ionawr], cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Rhoi Organau yn mynd rhagddo i’r broses craffu cyn deddfu yn y Senedd.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Rwy’n falch fy mod yn cyflwyno’r LCO hwn i’r broses craffu cyn deddfu. Mae’n hollbwysig archwilio’r mater sensitif hwn yn drylwyr yn y Cynulliad ac yn San Steffan.

“Mae craffu cyn deddfu yn rhan arwyddocaol o’r broses LCO, gan ganiatau i Aelodau’r Cynulliad ac ASau archwilio’r materion a godir yn y cais hwn yn drylwyr, a chynnig safbwynt o ran p’un ai a fyddai’n addas datganoli’r pwerau ai peidio.  

“Roeddwn yn falch o roi gwybod i Brif Weinidog Cymru bod hwyluso’r cais hwn yn profi bod Swyddfa Cymru yn cyflawni ei ymrwymiad i barhau i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.”

Nodiadau

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi cyflwyno’r LCO arfaethedig i’r broses craffu cyn deddfu yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio pwerau i gyflwyno system caniatad tybiedig ar gyfer rhoi organau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 10 January 2011