Datganiad i'r wasg

Adnewyddiadau trwyddedau gyrru i rai dros 70 yn saethu i fyny wrth i 6 allan o 10 fynd ar-lein nawr

Mae DVLA wedi rhyddhau ffigyrau newydd sydd yn dangos bod dros 60% o’n cwsmeriaid dros 70 mlwydd oed yn dewis adnewyddu eu trwydded ar-lein.

Mae ffigurau newydd a gafodd eu rhyddhau heddiw gan DVLA yn dangos bod tua 6 allan o 10 o rai dros 70 oed a adnewyddodd eu trwydded yrru llynedd wedi gwneud hynny ar-lein.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos yn 2016, mai dim ond 43% o’r rheini oedd yn adnewyddu’u trwydded yrru yn 70 oed neu’n hŷn a ddefnyddiodd gwasanaethau ar-lein DVLA, o gymharu a dros 60% yn 2020 - y flwyddyn gyntaf roedd yn well gan dros hanner y bobl 70 oed neu drosodd wneud hyn ar-lein.

Mae deiliaid trwydded yrru 70 oed a throsodd wedi adnewyddu’u trwyddedau ar-lein bron 5 miliwn gwaith yn y 5 mlynedd diwethaf.

Mae cynnydd o 27% wedi bod yng nghyfanswm y nifer o ddeiliaid trwydded yn eu 80au yn cwblhau eu hadnewyddiad ar-lein rhwng 2016 a 2020, tra bod y nifer yn eu 90au wedi neidio o 41%.

Roedd gan yrwyr a wnaeth gais ar-lein hyn i’w ddweud:

Penderfynais wneud cais ar-lein am y tro cyntaf ac er nad ydw i’n wych ar y cyfrifiadur, cefais i’r broses yn hawdd i’w dilyn a’i gweithredu.

Dim cymlethdodau wrth gwblhau’r cais, a chyrhaeddodd y drwydded newydd o fewn ychydig ddyddiau.

Llawer mwy cyfleus yn hytrach na chwblhau ar bapur lle mae camgymeriadau yn anoddach i’w cywiro.

Gwnes i gais ar-lein, gweithiodd popeth fel cloc, gweithdrefn eithriadol o hawdd.

Mae’n ofynnol trwy gyfraith i ddeiliaid trwydded yrru adnewyddu eu trwydded yn 70 ac wedyn bob 3 blynedd ar ôl hyn. Mae adnewyddu trwydded yrru yn 70 neu drosodd am ddim, ac mae’r ffigurau hyn yn dangos eu bod yn troi’n gynyddol at wasanaeth ar-lein DVLA ar GOV.UK pan fod angen iddynt wneud hyn.

Mae adnewyddu ar-lein yn cymryd munudau ac mae trwyddedau gyrru fel arfer yn cael eu dosbarthu o fewn 5 niwrnod - sy’n golygu mai ar-lein fydd y ffordd gyflymaf a hawddaf i adnewyddu bob tro. Trwy ddefnyddio GOV.UK yn unig mae cwsmeriaid yn gallu bod yn sicr eu bod yn delio’n uniongyrchol â DVLA a bod eu cais yn sicr a diogel.

Bydd cwsmeriaid sy’n adnewyddu eu trwydded ar-lein hefyd yn derbyn e-bost cadarnhau i’w hysbysu bod y cais wedi cael ei dderbyn.

Dywedodd y Gweinidog Ffyrdd y Farwnes Vere:

Mae’n wych i weld rhagor o yrwyr dros 70 oed yn dewis adnewyddu’u trwyddedau ar-lein.

Mae’r cynnydd trawiadol mewn adnewyddiadau ar-lein ers 2016 yn dystiolaeth o ba mor hawdd a chyflym mae’r broses hon a gobeithio bydd y duedd yn parhau wrth i ragor o bobl ddewis profi’r buddion hyn eu hunain.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA Julie Lennard:

Ein gwasanaeth ar-lein fydd y ffordd gyflymaf a hawddaf i adnewyddu trwydded yrru - beth bynnag y bo’ch oed.

Gyda mwy a mwy o ddeiliaid trwyddedau 70 oed a throsodd yn dewis adnewyddu ar-lein, mae’r ffigurau hyn yn dangos pa mor gyfleus mae’n gwasanaeth ar-lein ac rydym wrth ein bodd i weld rhagor o’n cwsmeriaid yn cael budd o hyn nac erioed o’r blaen. Y tro nesaf y bydd angen i chi adnewyddu’ch trwydded yrru, ein cyngor yw rhoi cynnig ar y gwasanaeth ar-lein a gweld dros eich hun pa mor hawdd a chyfleus y mae.

Mae cwsmeriaid yn gallu dysgu rhagor am wasanaethau ar-lein DVLA yn GOV.UK gan gynnwys adnewyddu trwydded yrru, newid cyfeiriad, neu ddweud wrth DVLA eich bod wedi newid eich cerbyd.

Nodiadau i olygyddion:

Mae ffigurau yn cynrychioli deiliaid trwyddedau, ac nid ydynt o reidrwydd yn golygu bod pawb o’r rhain yn ddefnyddwyr ffyrdd gweithredol.

Mae’r ffigurau isod yn dangos cymhariaeth o’r nifer o ddeiliaid trwydded yrru sy’n adnewyddu’u trwydded yrru ar-lein (yn 70 oed neu drosodd) rhwng y blynyddoedd calendr 2016 a 2020, wedi’u dadansoddi fesul grŵp oedran. Mae cyfrifiadau codiadau canran yn seiliedig ar y ffigurau hyn.

OEDRAN DEILYDD TRWYDDED 2016 2020
70-79 704,027 818,835
80-89 107,754 137,356
90-99 7,146 10,046
100+ 25 71

Mae’r tabl isod yn dangos y rhaniad rhwng canrannau’r rheini sy’n adnewyddu yn 70 oed ar-lein a’r rheini sy’n adnewyddu trwy’r sianel bapur, ar gyfer pob blwyddyn galendr ers 2016:

2016 2017 2018 2019 2020
Ar-lein 43.13% 46.33% 45.64% 49.94% 60.48%
Papur 56.87% 53.67% 54.36% 50.06% 39.52%

Mae rhagor o wybodaeth am adnewyddu’ch trwydded yrru yn 70 oed ar GOV.UK yn https://www.gov.uk/renew-driving-licence-at-70

Mae gwasanaethau ar-lein DVLA yn gweithio fel arfer ac nid ydynt wedi cael eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws. Mae holl wasanaethau ar-lein DVLA ar gael ar GOV.UK

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 22 June 2021