Stori newyddion

Blwyddyn i fynd tan y bydd Tollau Hafren yn cael eu diddymu

Alun Cairns yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i hybu economi Cymru o dros £100m y flwyddyn

Severn Crossing

Dim ond blwyddyn sydd i fynd nes bydd gyrwyr yn cael budd o deithio am ddim i Gymru ar draws Pontydd Hafren diolch i addewid Llywodraeth y DU i ddiddymu’r tollau erbyn 31 Rhagfyr 2018.

Bydd y penderfyniad yn cryfhau’r cysylltiadau economaidd a rhagolygon y coridor naturiol rhwng De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan roi hwb i economi Cymru o tua £100m y flwyddyn, ac arwain at filoedd o bunnoedd o arbedion blynyddol i yrwyr ceir rheolaidd.

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi gwahodd partneriaid a busnesau lleol o Dde Ddwyrain Cymru a De Orllewin Lloegr i ddod i’r gynhadledd fusnes trawsffiniol gyntaf yng Nghasnewydd ar 22 Ionawr, mewn ymdrech i ystyried sut y gellir cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy economi cyn cael gwared ar y tollau.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae lefel uchel tollau Pontydd Hafren wedi bod yn rhwystr i dwf economaidd Cymru am dros hanner canrif, mewn llai na blwyddyn byddwn yn gweld yr ysgogiad economaidd mwyaf i Dde Cymru a’r Cymoedd ers degawdau.

Mae fy mhenderfyniad i ddiddymu’r tollau gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr yng nghabinet Llywodraeth y DU yn hwb i deithwyr, twristiaid a pherchnogion busnesau fel ei gilydd a fydd yn gweld arian ychwanegol yn eu pocedi wrth iddynt fynd yn ôl ac ymlaen o Gymru.

Bydd cael gwared ar y tollau yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy economi yn ogystal â chymunedau De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan greu coridor twf yn ymestyn o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste.

Bydd cael gwared ar y tollau yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy economi yn ogystal â chymunedau De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan greu coridor twf yn ymestyn o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste.

Yn dilyn dychwelyd Pontydd Hafren i berchnogaeth gyhoeddus ar 8 Ionawr 2018, bydd y tollau yn cael eu lleihau i bob gyrrwr yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghyllideb 2015.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r tollau leihau ers eu cyflwyno ym 1966. Ni fydd y cynnydd blynyddol arferol o ran chwyddiant (a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2018) yn berthnasol ychwaith.

O 8 Ionawr 2018 ymlaen:

  • Bydd gyrwyr ceir yn talu £5.60 yn lle £6.70.
  • Bydd gyrwyr bysiau bach neu faniau yn talu £11.20, i lawr o £13.40
  • Bydd gyrwyr lorïau a bysiau mawr yn talu £16.70 yn lle £20

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae disgwyl i’r penderfyniad i ddiddymu roi budd o thua £100m y flwyddyn i economi Cymru yn ôl Llywodraeth Cymru: Effaith Tollau Pontydd Hafren ar Economi Cymru, 30 Mai 2012

  2. Bydd gyrwyr ceir rheolaidd yn arbed dros £1,400 y flwyddyn yn seiliedig ar gost tagio misol o £117.92 dros 12 mis.

  3. Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal y gynhadledd fusnes drawsffiniol gyntaf ar gyfer Twf Hafren ar 22 Ionawr 2018 yng Ngwesty’r Celtic Manor. Gall busnesau gofrestru i ddod i’r gynhadledd drwy Eventbrite.

  4. Ar 13 Ionawr, lansiodd y Llywodraeth ymgynghoriad yn nodi cyfres o gynigion gyda’r nod o ddarparu gwelliannau i’r Pontydd. Bu’r ymgynghoriad hwn yn agored am wyth wythnos tan 10 Mawrth. Gellir dod o hyd i’r ymateb i’r ymgynghoriad yma

  5. Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu ym 1966 a chafodd ail groesfan ei chwblhau 30 mlynedd wedyn.

  6. Pan ddaw’r pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rhedeg gan Highways England. Yn flaenorol roeddent yn cael eu rhedeg gan Severn River Crossing plc.

  7. Agorwyd y Bont Hafren gyntaf ym mis Medi 1966, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol o draffordd yr M4 i Gymru, gyda tholl mewn lle i ddefnyddio’r bont er mwyn talu am gost y gwaith adeiladu. Roedd yn gyson weithredu dros ei chapasiti ac ym 1986 dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y byddai ail bont yn cael ei hadeiladu.

  8. Ym 1988 cyhoeddwyd y byddai tendrau’n cael eu gwahodd gan gonsortia preifat er mwyn ariannu, adeiladu a gweithredu’r ail bont a bod yn gyfrifol am weithredu’r bont gyntaf. Ym 1990 dyfarnwyd y consesiwn i Severn River Crossing PLC (“SRC”). Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 1992 ac agorwyd yr ail bont ym mis Mehefin 1996.

Cyhoeddwyd ar 31 December 2017