Datganiad i'r wasg

Blwyddyn fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Alun Cairns: Datblygu cenedl Gymreig uchelgeisiol

Alun Cairns

Flwyddyn union yn ôl i heddiw (19 Mawrth), cymerodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei sedd wrth fwrdd y Cabinet ac amlinellodd ei uchelgais o greu cenedl a fyddai’n fwy uchelgeisiol, hyderus ac allblyg nag erioed.

Ers hynny, mae Ysgrifennydd Cymru wedi goruchwylio nifer o gyflawniadau allweddol, gan gynnwys:

Deddf Cymru 2017

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil Cymru yn Ionawr 2017, gan sefydlu pecyn cryf o bwerau i aelodau Cynulliad â sefydlogrwydd ac atebolrwydd yn ganolog iddo.

Fframwaith cyllidol

Bydd fframwaith cyllidol newydd a fydd yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu ar ôl datganoli rhai trethi yn garreg filltir bwysig i Gymru. Mae’r fargen yn darparu cyllid hirdymor diogel i Lywodraeth Cymru ac yn galluogi Bae Caerdydd i weld darlun cliriach wrth ystyried penderfyniadau gwario.

Tollau pont Hafren

Rydym wedi cyhoeddi cynigion a fydd yn sicrhau bod y prisiau ar gyfer pob cerbyd yn cael eu haneru ar ôl i’r bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2018.

Signal ffôn symudol

Roedd rhoi sylw i ardaloedd sy’n methu â chael signal ffôn symudol yn fater y tynnwyd sylw ato fel blaenoriaeth pan ddechreuodd Mr Cairns yn ei swydd, a’r neges oedd na allai Cymru gael ei gadael ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Ym mis Ionawr cynhaliodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Ofcom uwchgynhadledd er mwyn canfod ateb i’r broblem, a gwnaethpwyd ymrwymiadau i wella’r sefyllfa. Gallwch ddarllen rhagor yma.

Cymorth i fusnesau

Ymunodd dros 80 o gwmnïau ag Ysgrifennydd Cymru yng Nghaerdydd yn Uwchgynhadledd Allforio Busnes Cymru ym mis Mawrth eleni. Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru ac roedd yn gyfle i gwmnïau a oedd yn cychwyn ar siwrneiau allforio fanteisio ar arbenigedd a chefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Yn ystod y 12 mis diwethaf rwyf wedi cael y fraint o brofi pethau gorau un y wlad hon, gan wneud cysylltiadau ym mhob cwr o Gymru, blasu ei diwylliant a’i hanes a chwrdd â’i phobl.

Mae’r nodau rydym wedi eu cyflawni yn mynd â ni gam yn nes at wireddu cenhadaeth y Llywodraeth hon, sef creu gwlad sy’n gweithio i bawb.

Ond mae rhagor o waith i’w wneud. Wrth i ni baratoi i fyw mewn un o’r cyfnodau pwysicaf yn hanes ein gwlad, rwyf am symud ymlaen â’r gwaith heb wastraffu dim amser. Byddaf yn rhoi arweiniad i wneud yn siŵr bod Cymru yn y safle cryfaf posibl i ffynnu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, cefnogi swyddi a thwf a gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Cyhoeddwyd ar 19 March 2017