Datganiad i'r wasg

Nodyn ar roi’r Cynllun Pensiwn i Farnwyr sy’n Derbyn Ffi ar waith

Datganiad i roi gwybod i’r rhai sy’n dal swydd barnwr ar hyn o bryd, neu sydd wedi dal swydd barnwr yn y gorffennol, ac sy’n derbyn ffi, ynghylch pa gamau mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn eu cymryd i gyflwyno cynllun pensiwn i farnwyr sy’n derbyn ffi.

Mewn ymateb i ddyfarniad Goruchaf Lys y DU yn achos O’Brien, cytunodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder i gyflwyno Cynllun Pensiwn i Farnwyr sy’n Derbyn Ffi (y Cynllun Pensiwn). Mae’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Pensiwn, gan gynnwys yr angen i brofi cynigion yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl, yn rhannol oherwydd yr ymgyfreitha cyfredol, a gafodd ei ddatrys y mis diwethaf.
Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith yn y Rheoliadau, a bydd yn dilyn trefn gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol, lle bydd gofyn i ddau Dŷ’r Senedd ei gymeradwyo cyn y gall ddod yn gyfraith. Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder hefyd wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad ar y Rheoliadau drafft cyn y byddant yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd. Mae’n debygol na fydd y Rheoliadau’n cael eu trafod tan hydref 2016.

Am y rhesymau hyn, nid yw’r dyddiad rhoi ar waith gwreiddiol, sef 31 Mawrth 2016, yn ymarferol mwyach. Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn rhagweld y bydd y Cynllun Pensiwn yn cael ei roi ar waith erbyn 1 Rhagfyr 2016, yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad a/neu unrhyw ymgyfreitha cyfredol. Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cynnig taliadau interim i rai sy’n dal swydd barnwr ac sy’n derbyn ffi yn ystod y cyfnod hwn, nes bydd y Cynllun Pensiwn yn cael ei gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2016.

Taliadau interim yn lle pensiwn

Os ydych chi’n dal swydd barnwr cymwys sy’n derbyn ffi, ac os byddwch yn ymddeol cyn i’r Cynllun Pensiwn gael ei gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2016, cewch wneud cais am daliad interim drwy ysgrifennu at y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn [judicialpayclaims@justice.gsi.gov.uk]((mailto:judicialpayclaims@justice.gsi.gov.uk) gan nodi pryd rydych chi’n bwriadu ymddeol.

Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder eisoes wedi gwneud nifer o daliadau interim yn lle pensiynau, tra’n aros nes bydd y Cynllun Pensiwn yn cael ei gyflwyno. Yn sgil amserlen ddiwygiedig y Cynllun Pensiwn, bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn ysgrifennu at bawb sydd eisoes wedi derbyn taliad interim i gynnig taliad interim pellach ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2016 tan 31 Mawrth 2017.

Dylid darllen y diweddariad hwn ochr yn ochr â gohebiaeth gynharach o’r enw Diweddariad: Datganiad gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder mewn achosion lle mae deiliad swydd farnwrol yn derbyn ffi, a gyhoeddwyd ar 17 Mehefin 2014.

Cyhoeddwyd ar 21 January 2016