Datganiad i'r wasg

Mae Atyniadau Ymwelwyr Gogledd Cymru yn hollbwysig i’r Economi Leol, medd Ysgrifennydd Cymru

Mae twristiaeth ac atyniadau megis yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol, Oriel Mostyn a rheilffordd Llangollen yn hollbwysig i economi Gogledd Cymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae twristiaeth ac atyniadau megis yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol, Oriel Mostyn a rheilffordd Llangollen yn hollbwysig i economi Gogledd Cymru, medd Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw.

Wrth siarad yn ystod ei hymweliad deuddydd a Gogledd Cymru, dywedodd Mrs Gillan y gall Gogledd Cymru chwarae rhan allweddol yn nyheadau’r Llywodraeth i’r DU ddod yn un o’r pum prif gyrchfan i dwristiaid yn y byd.

Bu Mrs Gillan yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis i weld sut mae’r amgueddfa’n gwarchod ac yn darlunio treftadaeth diwydiant llechi Cymru.  Yn ystod yr ymweliad a’r amgueddfa arobryn, gwyliodd Mrs Gillan un o’r chwarelwyr yn hollti llechi. 

Yn dilyn ymweld a’r amgueddfa, bu Mrs Gillan yn y Tree Top Lodge, Betws y Coed.  Mae’r cwmni, a agorodd yn 2007, yn rhoi cyfle i blant, unigolion a busnesau brofi taith uchel, anturus, drwy’r coed gan wynebu cyfres o rwystrau ar y ffordd.

Cafodd Mrs Gillan gyfarfod staff a mynd o amgylch Oriel Mostyn, Llandudno’r diwrnod canlynol.  Yr oriel hon oedd y gyntaf yn y byd i gael ei hadeiladu i arddangos gwaith artistiaid benywaidd, a gadawodd crewr a pherchennog yr oriel, y Foneddiges Augusta Mostyn, yr oriel yn rhodd i dref Llandudno.

Ar ol mynd o amgylch yr oriel, aeth Mrs Gillan i Reilffordd Llangollen lle gwelodd hen gerbyd rheilffordd sydd wedi’i adnewyddu a’i drawsnewid yn fersiwn maint llawn o’r cymeriad ‘Clarabel’ o’r straeon plant poblogaidd ‘Tomos y Tanc’.

Meddai Mrs Gillan:  “Mae twristiaeth yn hollbwysig i economi Gogledd Cymru, gan ddod ag incwm o hyd at £1.8 biliwn i’r rhanbarth a chefnogi tua 37,000 o swyddi.  Mae’r atyniadau i dwristiaid yr wyf wedi ymweld a hwy yn ystod y deuddydd diwethaf oll yn cyfrannu at hyn a byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

“A ninnau yng nghanol gwyliau’r haf, mae llond gwlad o atyniadau i ymwelwyr yng Ngogledd Cymru i bawb fwynhau diwrnod allan ar garreg ein drws.  O’n treftadaeth diwydiant llechi, sy’n ymgeisio am Statws Treftadaeth y Byd, ein horielau ffyniannus megis Mostyn, i ‘Clarabel’ yn rheilffordd Llangollen, mae ‘na rywbeth i bawb ei fwynhau’r haf hwn.

“Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod y rhan allweddol y mae twristiaeth yn ei chwarae yn ein heconomi, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddar, ein dyhead yw gweld y DU yn un o’r pum prif gyrchfan i dwristiaid yn y byd.  Gall atyniadau i dwristiaid yng Ngogledd Cymru chwarae rhan allweddol yn ein helpu ni i wireddu’r uchelgais hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd ymlaen a hyn.”

Yn ystod ei hymweliad a Gogledd Cymru, bu’r Ysgrifennydd Gwladol yn gweld set Rownd a Rownd, yr opera sebon Gymraeg i bobl ifanc; gwelodd brosiect Pel-droed yn y Gymuned y Rhyl, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy’n ceisio helpu pobl ifanc 16-19 mlwydd oed ddychwelyd i addysg a chyflogaeth; ac ymwelodd a gorsaf bŵer Wylfa a’r ffatri Sharp yn Wrecsam i glywed am eu buddsoddiad diweddar o £30m a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 27 August 2010