Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn Croesawu Gwaith ar Biblinell

Heddiw, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd piblinell hollbwysig sy’n darparu’r sicrwydd o ynni…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd piblinell hollbwysig sy’n darparu’r sicrwydd o ynni i filoedd o gartrefi yng Ngogledd Cymru yn cael ei disodli gan un newydd.

Heddiw, mae Charles Hendry, y Gweinidog dros Ynni, wedi cymeradwyo’r cynlluniau i Wales and West Utilities adeiladu piblinell nwy 22 cilometr o hyd rhwng Llanwrin ym Mhowys a Dolgellau yng Ngwynedd.

Bydd y biblinell yn cymryd lle’r un bresennol, sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes erbyn hyn.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein seilwaith ynni, a bydd y cyhoeddiad a wnaed heddiw yn sicrhau bod miloedd o bobl yng Ngogledd Cymru yn parhau i gael budd o gyflenwad nwy diogel am flynyddoedd i ddod.

“Mae hefyd yn galonogol bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi bod yn rhan lawn o’r broses ymgynghori. Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Cadair Idris a Pharc Cenedlaethol Eryri yn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ac rwy’n falch iawn o glywed y bydd pwysigrwydd y safleoedd hyn yn cael ei ddiogelu.

Bydd y biblinell ddur newydd, a fydd o dan y ddaear, yn dilyn yr un llwybr yn fras a’r biblinell bresennol, ond bydd gwyriad sylweddol o tua 11 cilometr (7 milltir) yng Nghorris i’r gogledd o Lanwrin.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd y biblinell yn gwasanaethu ardaloedd gweinyddol Gwynedd a Phowys. Yn ol data 2009, roedd gan Wynedd 28,600 o ddefnyddwyr domestig ac roedd gan Bowys 26,800. Amcangyfrifwyd bod poblogaeth Gwynedd yn 119,000 yn 2009 a phoblogaeth Powys yn 131,000 yn 2010
Cyhoeddwyd ar 13 February 2012