Datganiad i'r wasg

Gogledd Cymru’n Cynnal Uwchgynhadledd Ddod ä Chyfleoedd Pwerdy Gogledd Lloger Dros y Ffin

Mae arweinwyr busnesau dylanwadol a gwleidyddion o’r ddwy ochr i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi cyfarfod i drafod sut y gall Gogledd Cymru wneud y gorau o gyfleoedd economaidd Ardal Pwerdy Gogledd Lloegr.

Summit meeting

Bwriad yr uwchgynhadledd drawsffiniol, a gynhaliwyd yng Ngholeg Cambria yn Sir y Fflint, oedd hybu trafodaeth ddyfal a chodi ymwybyddiaeth ymysg busnesau ynglŷn â sut i gyflymu datblygiad economaidd trawsffiniol drwy amrywiaeth o fentrau sydd o fudd i’r ddwy ochr. Mae’r rhain yn cynnwys moderneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y sector ynni, a strategaeth datblygu economaidd drawsffiniol glir a thîm economaidd trawsffiniol cryf.

Yn ymuno â Guto Bebb, Gweinidog yn Swyddfa Cymru a Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet Cymreig dros yr Economi a Seilwaith, ar Gampws Llaneurgain roedd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau busnes gan gynnwys Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Ffederasiwn Busnesau Bach, y CBI, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, cadeiryddion Ardaloedd Menter Cymru, Siambr Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi Dyfrdwy.

Wrth siarad cyn yr Uwchgynhadledd, dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb:

Mae’r uwchgynhadledd hon yn adlewyrchu pwysigrwydd Gogledd Cymru a’r rôl mae’n ei chwarae mewn perthynas â Phwerdy Gogledd Lloegr.

Rwy’n falch o fod yma’n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n sicr o’n helpu i gyflawni mwy dros yr ardal. Yn sgil canlyniad refferendwm yr U.E. mae’n hanfodol ein bod ni’n edrych ar yr holl gyfleoedd sy’n gallu cryfhau ein heconomi. Bydd sicrhau cynllun twf yn sicr yn gymorth i adeiladu economi’r rhanbarth ac i fanteisio i’r eithaf ar y cysylltiadau â Phwerdy Gogledd Lloegr. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Canghellor a chydweithio dros y ffin. Mae hyn yn newyddion da i Ogledd Gymru.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet Cymreig dros yr Economi a Seilwaith:

Mae gen i uchelgeisiau economaidd mawr ar gyfer y Gogledd ac rwy’n benderfynol o wneud popeth y gallaf i sbarduno ffyniant a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.

Mae Pwerdy Gogledd Lloegr yn gyfle anferth i’r Gogledd ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru ran amlwg iawn ym mhob penderfyniad a chynnig datblygu er mwyn sicrhau’r dyfodol gorau posibl i’r rhanbarth.

Rhaid inni alinio’n blaenoriaethau â rhai Pwerdy Gogledd Lloegr, yn enwedig yng nghyd-destun cynllun Twf y Gogledd, yn ogystal â datblygu’r cyfryngau gorau posib ar gyfer gweithio’n effeithiol ar draws y ffin.

Mae Cynhadledd Gogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi’r Adolygiad Economaidd Annibynnol o Bwerdy Gogledd Lloegr wythnos ddiwethaf sy’n tynnu sylw at feysydd y mae Gogledd Lloegr yn arwain y byd ynddynt. Mae hefyd yn nodi’r mesurau sydd eu hangen i sicrhau gwelliannau i economi’r rhanbarth gan ddod i’r casgliad fod angen newid radical er mwyn cau bylchau mewn sgiliau a chynhyrchiant ond y gallai newidiadau o’r fath arwain o bosibl at 850,000 o swyddi erbyn 2050.

Cyhoeddwyd ar 8 July 2016