Datganiad i'r wasg

Neges ar gyfer y Flwyddyn Newydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Ym mis Mai, pan gefais fy mhenodi gan David Cameron yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, roeddwn yn ymwybodol bod y Deyrnas Unedig yn cychwyn pennod…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ym mis Mai, pan gefais fy mhenodi gan David Cameron yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, roeddwn yn ymwybodol bod y Deyrnas Unedig yn cychwyn pennod newydd a chyffrous yn ei hanes.

Roedd ffurfio Llywodraeth glymblaid wedi newid gwleidyddiaeth San Steffan am byth.

I Gymru, roedd yn golygu bod gan y pedair prif blaid ran yn nyfodol ein gwlad a oedd yn cyflwyno her i wleidyddion bob plaid. Roedd yn rhaid dangos aeddfedrwydd newydd o ran y ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd ac ar gyfer y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Ac roedd yn tanlinellu pa mor bwysig yw sicrhau bod pleidiau a gwleidyddion yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael a’r problemau niferus sy’n wynebu’r wlad.

Yn ystod y saith mis ers yr Etholiad Cyffredinol, er mwyn delio a’r sefyllfa economaidd ofnadwy y cawsom ein gadael ynddi gan y Llywodraeth ddiwethaf, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ond angenrheidiol, er mwyn sefydlogi’r economi, lleihau’r diffyg ariannol, a rhoi mwy o bŵer i bobl yn eu cymunedau lleol.

Nid wyf am honni o gwbl fod popeth rydym wedi’i wneud ers mis Mai wedi bod yn hawdd, nac yn boblogaidd. Ond credaf ei bod yn angenrheidiol ein bod yn rhoi’r wlad yn ol ar y llwybr cywir ar ol blynyddoedd o wastraff a dyled - dyled a allai roi ein heconomi yn ol mewn sefyllfa beryglus pe na allwn ei lleihau’n sylweddol.

Bydd y gwaith hwnnw’n parhau yn 2011.

Bydd y 12 mis nesaf yn bwysig i Gymru.

Bydd etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai yn rhoi cyfle i bob pleidleisiwr yn y wlad benderfynu ar Lywodraeth nesaf Bae Caerdydd, pwy allai fod y Prif Weinidog nesaf i Gymru, a pha wleidyddion fydd yn cael penderfynu ynghylch y gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt.

Ychydig o wythnosau cyn hynny, ar 3 Mawrth, bydd gan bobl y cyfle hefyd i bennu sut y dylid creu deddfwriaethau, oherwydd cynhelir refferendwm ar p’un ai a ddylid caniatau i’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau deddfu sylfaenol mewn meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli neu a fyddai’n well cadw at y system bresennol drwy gynnwys Aelodau Seneddol San Steffan.

P’un ai a fydd pleidlais o blaid neu yn erbyn, bydd yn brawf pendant o ymrwymiad y Llywodraeth glymblaid i ganiatau i bobl a chymunedau wneud penderfyniadau ar eu bywydau eu hunain. Mae’r Refferendwm ei hun yn ymwneud a newidiadau i’r meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli a sut y creffir ar ddeddfau yn y meysydd hynny.

Bydd pleidlais o blaid yn newid y berthynas a San Steffan gan y bydd posibilrwydd y caiff mwy o ddeddfwriaethau eu creu yn gyfan gwbl yng Nghaerdydd ac y bydd angen dadansoddi eu heffaith ar ddeddfau a gaiff eu creu yn San Steffan.

Os bydd pleidlais yn erbyn, bydd y broses ddeddfwriaethol bresennol lle bydd San Steffan yn cynnal profion ac yn sicrhau cydbwysedd o ran craffu yn parhau. Fodd bynnag, os bydd hynny’n digwydd, byddaf yn ymgynghori er mwyn gweld a allwn wneud y broses yn fwy effeithiol ac effeithlon, ac yn archwilio’r holl ddewisiadau er mwyn gwella’r gweithdrefnau Seneddol.

Beth bynnag fo’r canlyniad, bydd gwaith Swyddfa Cymru yn parhau, gan gynrychioli buddiannau Cymru yn San Steffan, a San Steffan yng Nghymru.

Ein tasg bwysicaf fel Llywodraeth yn 2011, ac ar gyfer gweddill y tymor pum mlynedd hwn yw helpu i greu’r amodau ar gyfer sicrhau y gellir gwella economi Cymru. Mae’r gwaith hwnnw eisoes yn mynd rhagddo, ac er mwyn sicrhau llywodraeth well, byddaf yn parhau i weithio er mwyn cynyddu faint rydym yn ymgysylltu ac yn cydweithredu a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac rydym yn disgwyl i hyn weithio’r ddwy ffordd.

Bydd mentrau eraill yn dechrau dwyn ffrwyth hefyd. Yn ystod misoedd yr haf, gofynnais i David Jones AS arwain tasglu Swyddfa Cymru ar gyfer ymgynghori a chasglu safbwyntiau ac awgrymiadau ar yr amrywiol faterion a allai fod yn rhwystr i gymunedau gwledig ledled Cymru a pha bolisiau y gallai’r Llywodraeth glymblaid ystyried eu rhoi ar waith er mwyn eu helpu. Byddwn yn astudio’r canlyniadau yn y flwyddyn newydd.

Yn gynharach yn ystod y mis hwn, roeddwn yn gadeirydd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori newydd ar Fusnes yn Nhŷ Gwydyr ar gyfer archwilio amgylchedd busnes yng Nghymru a gwrando ar safbwyntiau arweinyddion busnesau yng Nghymru.  Caiff y safbwyntiau hyn eu cynnwys yn y Grŵp Cynghori ar Fusnes yn y DU dan arweiniad y Prif Weinidog felly bydd safbwynt Cymru yn cael ei ystyried yn y rhengoedd uchaf.

Sefydlwyd y Grŵp mewn cyfnod priodol iawn. Er bod gostyngiad wedi bod yn ddiweddar yn nifer y bobl hynny sy’n ddi-waith yng Nghymru - gyda chynnydd yn nifer y bobl sy’n dod o hyd i waith o ganlyniad i hynny - mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na’r rhan fwyaf o rannau’r Deyrnas Unedig. Mae hanner miliwn o bobl yn dal yn economaidd anweithgar, mae cyflogau’n is, a dangosodd y ffigurau Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) diweddaraf fod y bwlch ffyniant rhwng Cymru a rhannau eraill y DU yn lledu. Nid yw safonau addysg mewn mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth yng Nghymru gystal ychwaith a gwledydd eraill y DU. Mae’n rhaid i’r Cynulliad - sy’n gyfrifol am sgiliau ac addysg - fynd i’r afael a’r rhan hollbwysig hon o adfywio economi Cymru.

Dengys y newyddion da a gafwyd yn ddiweddar o ran yr economi - megis ymrwymiadau’r Llywodraeth i wario £500 miliwn ar ddatblygu rhaglen SCOUT gyda General Dynamics ac i fwrw ymlaen a’r A400M a’r rhaglen Awyren Tancer Strategol y Dyfodol gydag Airbus - yr hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer ein heconomi. Mae’r un fath yn wir am gyhoeddiadau diweddar o fuddsoddiadau diweddar yng Nghymru, megis Tata Steel a Sony ac ymestyn oes cynhyrchu ynni yn Wylfa, Ynys Mon.

Rwy’n gobeithio y bydd mwy o gynnydd yn 2011, a byddaf yn parhau i weithio i sicrhau canlyniadau cadarnhaol megis gwelliannau i Brif Linell Great Western o Lundain i Dde Cymru, ac ar brosiectau amddiffyn yn RAF Sain Tathan ym Mro Morgannwg. Rwyf hefyd yn awyddus i ddenu buddsoddiad i mewn i’r wlad er mwyn helpu ein heconomi i dyfu a byddaf yn parhau i weithio gyda gwleidyddion a sefydliadau ledled Cymru a’r DU er mwyn dangos manteision Cymru i gwmniau sy’n awyddus i ddod i’r DU.

Mae’r saith mis diwethaf wedi profi na all y Llywodraeth na’r wlad gyfan barhau fel yr oedd dan lywodraeth Llafur.

Ers mis Mai rydym wedi bod yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy diogel a ffyniannus, ar sail lefel gwariant cyhoeddus cytbwys, cynaliadwy a fforddiadwy.

Rydym yn sicrhau bod y ffigurau’n gwneud synnwyr, yn darparu gwerth am arian, ac yn cefnogi’r rheini sydd mewn gwir angen.

Ac rydym yn ystyried dyfodol ar sail twf mwy yn y sector preifat. Sicrhaodd Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr y Canghellor ym mis Hydref ein bod ar y trywydd iawn o ran mynd i’r afael a’r diffyg mwyaf erioed yn y gyllideb nad oeddem yn gallu ei fforddio.

Rydym wedi tynnu’r economi o sefyllfa beryglus. Ond mae’n rhaid i’r gwaith o greu cyllid mwy sefydlog a chynaliadwy barhau yn 2011.

Y wobr wrth wyrdroi ein sefyllfa economaidd fydd swyddi a chyflogau da, busnesau ffyniannus a safonau byw uwch a fydd yn darparu mwy i’n teuluoedd ac yn gadael i ni symud ymlaen fel gwlad.

Mae’n amlwg ein bod hefyd wedi etifeddu problemau cymdeithasol yn ogystal a’r problemau economaidd. Ceir pobl wedi’u caethiwo mewn diweithdra hirdymor a theuluoedd cyfan lle nad oes neb wedi gallu gweithio am nifer o genedlaethau neu lle’r oedd eu sefyllfa’n well wrth hawlio budd-daliadau yn hytrach na gweithio. Rydym am helpu’r bobl hynny.

Mae angen system budd-daliadau arnom sy’n sicrhau ei bod yn werth gweithio ac y caiff pobl eu gwobrwyo am weithio er mwyn sicrhau bod sefyllfa pobl yn well os ydynt yn gweithio yn hytrach nag yn hawlio budd-daliadau. Ond mae angen i ni gefnogi’r rheini sydd a’r angen mwyaf yn ein cymunedau. Mae angen i ni sicrhau bod help wedi’i dargedu yn cynorthwyo pobl yn ol i weithio ac y gall pobl fanteisio i’r eithaf ar eu potensial ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae twf a menter, gwobrwyo dyheadau a gwella symudedd cymdeithasol ymysg yr amcanion rydym am weithio tuag atynt yn 2011.

Ar ol yr argyfwng cymdeithasol ac economaidd a oedd yn nodweddiadol o’r hyn y gwnaethom ei etifeddu gan y Llywodraeth flaenorol, credaf yn 2011 y byddwn yn parhau i adeiladu ar sylfeini ein cyflawniadau yn 2010, gan sicrhau bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar swyddi a thwf, masnach, mentrau gwyrdd, pensiynau a diwygio lles. Gyda’r rhaglen hon, mae gan Gymru ddyfodol disglair.

Y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS

Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Cyhoeddwyd ar 31 December 2010