Datganiad i'r wasg

Neges ar gyfer y flwyddyn newydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae bob blwyddyn newydd yn rhoi cyfle i ni edrych yn ol ar ein cyflawniadau yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ogystal ag edrych ymlaen at y flwyddyn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae bob blwyddyn newydd yn rhoi cyfle i ni edrych yn ol ar ein cyflawniadau yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ogystal ag edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.

Nid oes amheuaeth bod 2012 wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn i Brydain Fawr mewn sawl ffordd. Roedd cyflawniadau athletwyr Tim Prydain Fawr a Thim Paralympaidd Prydain Fawr yng ngemau Llundain 2012 yn ysbrydoledig, ac fe wnaeth dathliadau’r Jiwbili Diemwnt danio dychymyg cynulleidfaoedd ledled y byd. Yr haf hwn, fe wnaethom fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i arddangos Prydain ar ei gorau ar lwyfan byd-eang.

Er bod llawer o bethau i fod yn falch ohonynt, rwy’n cydnabod bod 2012 wedi cyflwyno heriau hefyd, wrth i’r ymdrechion i gryfhau economi’r DU barhau.

Mae eleni wedi pwysleisio nad ydym yn ddiogel rhag yr ansicrwydd mae’r farchnad fyd-eang yn ei wynebu. Serch hynny, mae’r ddwy set ddiweddaraf o ffigurau’r farchnad lafur wedi dangos bod diweithdra’n disgyn, a bod cyflogaeth yn codi, ac mae cwrdd a llawer o’r arweinwyr busnes a ddywedodd fod ganddynt hyder newydd yn y dyfodol wedi codi fy nghalon.

Yn wir, yn 2012, nododd y Llywodraeth ei huchelgais i fynd i’r afael a’r gofynion economaidd mae’r wlad yn eu hwynebu yn uniongyrchol.

Yn ei Ddatganiad Hydref eleni, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y bydd Cymru yn cael budd o £227 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf. Bydd cyfanswm o £674 miliwn o arian ychwanegol, felly, wedi’i roi i Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant hwn. 

Mae’r penderfyniadau a wnaed gennym yn ddiweddar ar fuddsoddi mewn seilwaith yn helpu i ddangos bod Cymru’n agored i fusnes ac yn lle gwych i fuddsoddi. Bydd cyflwyno’r Bil Seilwaith (Cymorth Ariannol) yn rhoi cyfleoedd i gwmniau yng Nghymru sy’n awyddus i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith yng Nghymru. Mae rhan o’r strategaeth hon yn cael ei gwireddu yng Nghynllun Gwarantu’r DU, lle bydd hyd at £40 biliwn o warantau ar gael er mwyn helpu i fuddsoddi mewn seilwaith a hwyluso a hybu prosiectau seilwaith ledled y DU.

Ym mis Gorffennaf eleni, fe wnaethom gyhoeddi ein hymrwymiad i drydaneiddio’r rhwydwaith trenau o Gaerdydd i Abertawe a Chymoedd De Cymru.  Bydd hyn yn arwain at fanteision amgylcheddol, siwrneiau cyflymach, mwy o seddau ac yn cefnogi adfywiad economaidd a thwf mewn swyddi yn Ne Cymru. Gyda disgwyl y bydd Cymru yn cael budd uniongyrchol ac anuniongyrchol o bron i £2 biliwn o ganlyniad i’r rhaglen ar gyfer moderneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd, dyma’r cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol i Gymru yng nghyswllt ei seilwaith ers degawdau.

Mae cael mynediad at fand eang cyflym iawn hefyd yn hollbwysig er mwyn ysgogi twf economaidd. Eleni, cafodd Caerdydd a Chasnewydd fynediad i gyllid dinasoedd cysylltiadau cyflym mae ei angen er mwyn gwella eu seilwaith digidol.

Pan gefais fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nodais yn glir y byddai Swyddfa Cymru yn canolbwyntio ar dwf economaidd, ac y byddem yn meithrin perthynas well a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau twf yng Nghymru.

Yn ystod 2012, gwelwyd datblygiad mawr oherwydd cytunwyd mewn egwyddor y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am bwerau benthyca cyfalaf. Hefyd, cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, sy’n argymell datganoli pwerau cyllidol penodol i Gymru. Mae Llywodraeth y DU wrthi’n ystyried yr argymhellion hyn, ac mae’n bwriadu ymateb yn ffurfiol yng ngwanwyn 2013.

Nodais yn glir hefyd mai sicrhau dyfodol i gynhyrchu ynni niwclear ar Ynys Mon oedd fy mhrif uchelgais, ac felly roeddwn yn hynod falch o groesawu ymrwymiad Hitachi i fuddsoddi mewn ynni niwclear newydd yn Wylfa B. Bydd y safle’n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cyflenwad ynni’r wlad, a bydd yn un o brif ysgogwyr twf economaidd, gan sicrhau rhwng 5,000 a 6,000 o swyddi adeiladu i Ogledd Cymru, yn ogystal a hyd at 1,000 o gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel, gyda chyflogau da, pan fydd y safle’n weithredol.  Dywedodd Hitachi hefyd y disgwylir i oddeutu 60% o werth y safle gael ei gaffael o fewn y DU. Rwy’n gobeithio ymweld a Hitachi yn Japan ddechrau’r flwyddyn nesaf i drafod cynlluniau eraill ymhellach.

Mae seiliau cadarn dros gredu y bydd rhagolygon Cymru yn gwella’n sylweddol dros y 12 mis nesaf. Fodd bynnag, mae rhai cerrig milltir pwysig mae angen i ni eu cyflawni eto.

Tra mae’r Llywodraeth yn paratoi i ymateb i ganfyddiadau rhan gyntaf ei gwaith yn y gwanwyn, mae’r Comisiwn ar Ddatganoli eisoes wedi ymgymryd ag ail ran ei gylch gwaith, sef adolygu pwerau cyfredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ystod y 12 mis nesaf, byddaf yn casglu tystiolaeth ac yn ystyried setliad datganoli Cymru yn drylwyr cyn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau yng ngwanwyn 2014.

Gan adeiladu ar ein hymrwymiad i wella seilwaith yng Nghymru, rydym wedi hwyluso trafodaethau yn ddiweddar ynghylch datblygu achos busnes cadarn dros drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe. Bydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ffurfio cnewyllyn y grŵp a fydd yn bwrw ymlaen a’r dasg hon. Ni fydd modd sicrhau canlyniadau dros nos - mae’r cyfnod buddsoddi nesaf ar gyfer y rheilffyrdd rai blynyddoedd i ffwrdd - ond mae’n rhaid i ni ddechrau arni nawr er mwyn sicrhau bod yr achos busnes yn bodloni’r un safonau llym ag achos De Cymru, gan sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu cyflwyno’r manteision economaidd a fyddai’n sicr yn deillio o fuddsoddiad o’r fath.

Bydd cyflwyno gwelliannau i’r M4 hefyd yn rhan hollbwysig ar gyfer gwella seilwaith trafnidiaeth yn Ne Cymru, a bydd yn sicrhau manteision economaidd ledled Cymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn, ac mae’r trafodaethau ynghylch y dewisiadau cyllido wrthi’n mynd rhagddynt.

Mae angen i Gymru sicrhau bod ei dwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd, ac yn 2013, un o fy mlaenoriaethau fydd parhau i gryfhau’r berthynas rhwng San Steffan a Bae Caerdydd, er budd pobl Cymru. Maent yn disgwyl ac yn haeddu dim llai, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Prif Weinidog er mwyn cyflwyno ffyniant a chyfleoedd yn ystod y 12 mis nesaf.

Ymunaf a’m cydweithwyr gweinidogol yn Swyddfa Cymru i ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a llewyrchus i bawb.

Y Gwir Anrhydeddus David Jones
**
Ysgrifennydd Gwladol Cymru**

Cyhoeddwyd ar 1 January 2013