Stori newyddion

Bydd y Brifysgol newydd yn cryfhau addysg uwch yng Ngorllewin Cymru meddai Cheryl Gillan

Heddiw, croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newyddion bod Siarter Ategol wedi’i rhoi a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newyddion bod Siarter Ategol wedi’i rhoi a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyfuno dau o sefydliadau addysg uwch hynaf Cymru - Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin.   

Ar argymhelliad y Cyfrin Gyngor mewn cyfarfod o’r cyngor hwnnw ym Mhalas Buckingham, rhoddodd Ei Mawrhydi’r Frenhines sel bendith i Orchymyn sy’n golygu y gall y brifysgol newydd, Prifysgol Cymru:  Y Drindod Dewi Sant, agor ei drysau i fyfyrwyr yr Hydref hwn.     

Meddai Mrs Gillan: “Mae rol y sector Addysg Uwch yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru.  Ni ellir tanbrisio cyfraniad y sector yng nghyswllt cryfhau sgiliau a dyheadau’r gweithlu yng Nghymru mewn ffyrdd newydd ac arloesol.   

“Mae newid radical o ran siap, strwythur a darpariaeth addysg uwch yng Nghymru yn hollbwysig os yw am fod yn gystadleuol ym maes ymchwil ac yn sector sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, sy’n rhoi lle amlwg i fusnes ac sy’n ganolog i ddiwallu anghenion ein cymunedau.”   

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae cyfuno’r Drindod a Llanbedr Pont Steffan yn enghraifft dda o’r newidiadau trefniadol y mae angen eu gwneud ac o’r cyfleoedd gwirioneddol sy’n gallu deillio o hynny yng nghyswllt dysgwyr, cymunedau a darpariaeth.
“Nid yn unig y bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn cryfhau’r ddarpariaeth Addysg Uwch yng Ngorllewin Cymru, ond bydd hefyd yn cynnig amgylchedd dysgu deinamig lle gall myfyrwyr ffynnu a datblygu.”

Cyhoeddwyd ar 21 July 2010