Datganiad i'r wasg

Bydd technoleg newydd yn helpu i gadw’r system cyfiawnder i symud yn ystod pandemig COVID-19

Mae technoleg fideo newydd yn cael ei gyflwyno i gynorthwyo’r system cyfiawnder i symud yn ystod pandemig y coronafeirws.

Animated graphic of a computer screen with four people on the screen
  • Technoleg fideo newydd i gefnogi gwrandawiadau o bell mewn llysoedd trsoeddol
  • Gellir cael mynediad i’r system ddiogel trwy ystod eang o declynau
  • Cam cyntaf platfform fideo newydd yn cael ei gyflwyno i fwy na 100 o lysoedd

Mae GLlTEM yn cyflwyno platfform fideo newydd i alluogi pob parti mewn gwrandawiad troseddol i gymryd rhan o bell - gan alluogi pob llys ynadon a llys y goron yng Nghymru a Lloegr i gynnal gwrandawiadau diogel, gan ei gwneud hi’n haws i sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i gael ei weithredu.

Caiff y rhan fwyaf o achosion troseddol eu gwrando mewn llys ynadon a bydd y dechnoleg hon – isydd ar gael ar gyfer gwrandawiadau remand, terfyn amser yn y ddalfa a gwrandawiadau dedfrydu – yn galluogi pobl i symud drwy’r system cyfiawnder troseddol yn ystod y cyfnod anarferol hwn.

Ni fydd y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio ar gyfer treialon rheithgor a bydd barnwr yn penderfynu fesul achos os bydd hi’n briodol i ddefnyddio unrhyw wrandawiad arall.

Gyda diolch i ymroddiad staff GLlTEM, mae llysoedd yn parhau i flaenoriaethu pob gwrandawiad sy’n ymwneud â’r ddalfa, carchariad a mechnïaeth, a cheisiadau brys ar faterion megis trais domestig. Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 90% o’r holl achosion ers 14ddeg Ebrill wedi cael eu cynnal o bell gan sicrhau bod pobl fregus yn cael eu gwarchod.

Dywedodd Gweinidog y Llysoedd, Chris Philp

Mae’n hanfodol bod cyfiawnder yn parhau i gael ei weithredu yn y cyfnod anodd hwn a bydd y platfform newydd hwn yn cyflwyno technoleg fideo diogel a chadarn i lysoedd ar draws Cymru a Lloegr i’w galluogi i gyflawni mwy o’u gwaith pwysig.

Gwnaed argraff fawr arnaf o ran sut y mae’r system cyfiawnder wedi addasu cystal i’r sialensau anarferol yr ydym yn eu hwynebu.

Rydym eisoes wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o achosion sy’n cael eu gwrando o bell, a bydd y datblygiad hwn yn sicrhau bod olwynion cyfiawnder yn parhau i droi.

Dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Guy Kearl CF, Uwch Farnwr Cylchdaith yn Llys y Goron Leeds:

Mewn amser ansicr, mae gwybod bod rheolaeth y gyfraith yn goroesi ac y bydd cyfiawnder yn cael ei weithredu yn rhoi cysur mawr i bawb ohonom.

Mae’r dechnoleg fideo ddiogel hon yn un amlbwrpas ac yn rhoi’r gallu hanfodol i gyflwyno amrediad o wrandawaiadau troseddol: Rwyf yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r gwaith o’i gyflwyno’n llwyddiannus.

I ddechrau bydd y Platfform Cwmwl Fideo Kinly (CVP) yn cael ei gyflwyno i 60 o lysoedd ynadon a 48 o lysoedd y goron sydd ar hyn o bryd yn agored i’r cyhoedd, gydag eraill yn dilyn mor fuan â phosibl. Yn ogystal mae’n cael ei gyflwyno i lysoedd Sifil a Theulu.

Mae CVP yn cysylltu’n ddiogel i’r rhywdwaith fideo presennol ar gyfer y system cyfiawnder sy’n cysylltu gorsafoedd heddlu a charchardai gyda’r llysoedd, a gellir cael mynediad iddo trwy unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad i’r rhyngrwyd a chyda camera a meicroffon.

Mae llysoedd ynadon yn Llundain, y De-Ddwyrain, y De-Orllewin a’r Canolbarth wedi dechrau defnyddio CVP, gyda’r un cyntaf yn gwneud hynny yn gynharach yn ystod y mis hwn.

Yn ogystal cafodd ei gyflwyno yn Llysoedd y Goron Leeds, Sheffield, Newcastle a Hull gyda mwy o lysoedd yn y De-Ddwyrain yn barod i ddechrau. Y bwriad yw y bydd 16 o lysoedd ynadon a naw o lysoedd y goron yn defnyddio CVP erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

Cyn belled mae GLlTEM wedi cynnal 412 o wrandawiadau remand trwy CVP, wedi cysylltu arlein gyda 26 o ddalfeydd yr heddlu, cysylltu 95 o eiriolwyr, 42 o erlynwyr y Goron, 20 o swyddogion Prawf a dau gyfieithydd.

Dywedodd Amanda Pinto CF, Cadair Cyngor y Bar:

Mae’n rhaid i ni gadw’r system cyfiawnder i fynd er budd y cyhoedd. Mae bargyfreithwyr yn ogystal â’r farnwriaeth, staff y llysoedd a llawer mwy, yn benderfynol o addasu’n gyflym i weithredu cyfiawnder yn ystod Covid-19, gan gynnwys gwneud hynny o bell. Mae’r platfform CVP newydd yn holl bwysig i’r ymdrechion hyn, gan alluogi mwy o achosion i gael eu gwrando heb yr angen i bawb orfod casglu’n gorfforol mewn ystafell llys. Rydym wedi cael adborth positif gan fargyfreithwyr sydd wedi cymryd rhan mewn gwrandawiadau lle defnyddiwyd CVP yn barod. Rwyf yn awyddus i’w weld yn cael ei gyflwyno’n ehangach ac i sicrhau gymaint ag sy’n bosibl bod cyfiawnder effeithiol yn cael ei weithredu, yn hytrach na’i gadw i aros.

Dywedodd DPG Tony Blaker o Heddlu Kent ac arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer y Llysoedd:

Mae plismona yn defnyddio’r dechnoleg arloesol hon ac yn adeiladu ar ein partneriaeth bresennol gyda GLlTEM; gan helpu i warchod y cyhoedd a phobl sy’n gweithio mewn asiantaethau cyfiawnder troseddol. Trwy gynnal gwrandawiadau o bell yn ystod yr argyfwng hwn, gallwn helpu i leihau lledaeniad y feirws a sicrhau bod y System Cyfiawnder Troseddol yn parhau i weithio’n effeithiol. Rydym yn gweithio ar fyrder gyda’n partneriaid i gynyddu’r defnydd o dechnoleg, gan barhau i roi buddion i’r cyhoedd a chadw pobl yn saff.

Cyhoeddwyd ar 30 April 2020