Rheolau newydd yn cryfhau mynediad i’r cyfryngau yn y llysoedd troseddol
O heddiw (dydd Llun, 6 Hydref 2025), bydd newidiadau i’r Rheolau Trefniadaeth Droseddol yn ailgadarnhau cyfiawnder agored drwy nodi’n glir y dylai partïon sy’n gwneud cais am gyfyngiadau adrodd yn ôl disgresiwn mewn achosion troseddol hysbysu’r cyfryngau am unrhyw geisiadau.

Mae’r rheolau a ddiweddarwyd yn egluro mai’r ymgeisydd sy’n gyfrifol am hysbysu, gan sicrhau bod newyddiadurwyr yn cael eu hysbysu ac yn gallu herio ceisiadau gorchymyn cyfyngiadau ar adrodd ble bo’n briodol.
Mae’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon o’r cyfryngau fel partïon â diddordeb yn anelu i atal cyfyngiadau heb eu cyfiawnhau ar adrodd yn Llys y Coron a’r Llys Ynadon a gwella tryloywder ar draws y system gyfiawnder. Mae’r newidiadau yn dilyn cydweithio rhwng y Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Droseddol a sefydliadau’r cyfryngau gan gynnwys y Gymdeithas Cyfreithwyr Cyfryngau a’r Gymdeithas Cyfryngau Newyddion, gyda chefnogaeth gan Weithgor Cyfryngau GLlTEF.
Y nod a rennir oedd sicrhau bod y rheolau yn adlewyrchu rôl hanfodol y cyfryngau i ddal y system gyfiawnder i gyfrif. Dywedodd Georgia Jerram, Cadeirydd Gweithgor Cyfryngau GLlTEF: “Fel cymdeithas, rydym yn aml yn dibynnu ar y cyfryngau i fod yn lygaid ac yn glustiau i ni yn y llysoedd. Os nad yw newyddiadurwyr yn derbyn gwybodaeth glir ac amserol am geisiadau i’r llys ar gyfer cyfyngiad ar adrodd, maent yn colli’r cyfle i herio. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau nad yw cyfiawnder agored yn cael ei danseilio fel hyn.”
Mae’r gofyniad newydd yn berthnasol i gyfyngiadau yn ôl disgresiwn, fel y rhai sy’n amddiffyn tystion bregus neu sicrhau treialon teg ac nid yw’n effeithio ar gyfyngiadau awtomatig (sy’n cael eu gorfodi gan ddeddfwriaeth ac nid oes gan y llys unrhyw bŵer i’w newid neu eu dileu) ar waith eisoes ar gyfer achosion ieuenctid a throseddau penodol. Gallwch ddarllen y Rheolau Trefniadaeth Droseddol a ddiweddarwyd neu wybod mwy am y gwaith hwn mewn blog Inside HMCTS diweddar.